Adroddiad: Gwersi technoleg gwybodaeth yn 'hen-ffasiwn'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae cymwysterau technoleg gwybodaeth yn "hen ffasiwn" yn ôl Gareth Downey o Cymwysterau Cymru

Dydy'r teclynnau diweddaraf fel ffonau clyfar ddim yn cael eu hadlewyrchu o fewn cymwysterau technoleg gwybodaeth, yn ôl adroddiad newydd.

Mae ymchwil gan y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, yn dweud bod nifer o ysgolion yn defnyddio hen gyfrifiaduron ac mai'r prif reswm am hynny yw "diffyg arian".

Mae'r adroddiad yn dweud y dylid cael gwared ar TGAU a Safon Uwch mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a datblygu arholiadau Technoleg Ddigidol newydd.

Mae adolygiad diweddaraf Cymwysterau Cymru yn edrych ar ba mor addas yw cymwysterau ar gyfer sectorau allweddol o'r economi.

Mae'n dod i'r casgliad bod angen diwygio'r cymwysterau "yn eu hanfod" ac nad ydyn nhw "yn gymwys mwyach".

Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Gareth Downey, bod sgiliau digidol fel defnyddio meddalwedd, anfon e-byst a chwilio am wybodaeth ar y rhyngrhwyd "yn rhan o fywyd bob dydd" ond dydy hynny ddim yn cael ei adlewyrchu yn y cymwysterau.

"Mae gan y rhan fwyaf o bobl ifanc y sgiliau hyn eisoes, ymhell cyn iddynt ddechrau astudio'r cymwysterau presennol", meddai

"Wnaethon ni edrych ar nifer fawr o gymwysterau gafodd eu datblygu bron i 10 mlynedd yn ôl a dydyn nhw ddim yn cynnwys pynciau sy'n heriol i ddysgwyr ifanc wnaeth dyfu i fyny yn y byd digidol."

Prif gasgliadau'r adolygiad yw:

  • Dydy'r cymwysterau presennol ddim yn gyfredol, gyda rhai ddegawd tu ôl i'r datblygiadau diweddaraf fel ffonau clyfar, iPads a watsys clyfar;

  • Mae asesiadau o waith TGCh disgyblion yn aml yn ysgrifenedig neu'n cael eu cyflwyno fel sgrin-luniau;

  • Mae ysgolion a cholegau'n dweud bod diffyg arian yn golygu na allan nhw fforddio'r offer ddiweddaraf;

  • Dydy'r pwnc ddim yn flaenoriaeth ac mae'n cael ei ddysgu'n aml gan bobl sydd heb arbenigedd.

Disgrifiad,

Mae Brengain sy'n ddisgybl 15 oed yn cytuno â chasgliadau'r adroddiad

Mae'r adroddiad yn argymell mynd i'r afael â phroblemau gyda'r cymwysterau cyfredol, cyn datblygu cymhwyster Technoleg Ddigidol newydd.

Bydd sgiliau digidol, ynghyd â llythrennedd a rhifedd, yn ganolog i'r cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno o 2022 ymlaen.

Ond yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf yr arolygwyr ysgolion Estyn, dydy'r cynllunio i sicrhau bod TGCh yn rhan allweddol o'r cwricwlwm ddim "wedi'i ddatblygu'n ddigonol yn y rhan fwyaf o ysgolion".

"Yn aml, mae tasgau'n gyfyngedig i brosesu geiriau sylfaenol neu i gynhyrchu sioeau sleidiau lle mae disgyblion yn torri a gludo o wefannau", meddai'r ddogfen.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Luke Clement bod "bendant" problem o ran diffyg sgiliau gan athrawon

Mae cynllun Technocamps yn ceisio hybu sgiliau technoleg gwybodaeth disgyblion ac athrawon, ac mae Luke Clement o Brifysgol Abertawe yn un o'r rheiny sy'n gweithio gydag ysgolion.

O'i brofiad e, oes yna broblem o ran diffyg sgiliau ymhlith athrawon?

"Bendant", meddai.

'Plant yn gwybod mwy'

"Mae llwyth o'r athrawon fi 'di cwrdd â sy'n addysgu'r pwnc, does dim arbenigedd gyda nhw yn y pwnc ei hunan.

"Mae nhw'n athrawon ieithoedd, neu athrawon busnes a mae'r ysgolion just gorfod ffeindio rhywun sydd yn gallu llenwi'r bwlch i ddweud y gwir.

"Mae llawer ohonyn nhw yn ceisio datblygu sgiliau ynddo fe ond mae angen cefnogaeth arnyn nhw i wneud hynny."

Ac mae'n dweud bod y plant weithiau'n gwybod mwy na'r athrawon.

"Fi'n gweld llawer o'r athrawon sydd ar y cwrs blwyddyn yma sy'n dweud mae'r plant yn dosbarth nhw yn gwybod mwy na nhw am y pwnc - a mae hynna'n peri gofid iddyn nhw."