Galw am ailystyried gwaharddiad hela gwyddau prin

  • Cyhoeddwyd
Gwydd talcen-wenFfynhonnell y llun, RSPB

Mae gwahardd hela gwyddau talcen-wen prin yn "ymyriad gwbl ddiangen", yn ôl ymgyrchwyr.

Dywedodd Cynghrair Cefn Gwlad Cymru na fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r gwaharddiad yn 2019 yn adfer cyfraddau bridio sâl yr aderyn.

Ddwy flynedd yn ôl, dywedodd gweinidogion nad oedd tystiolaeth fod yr adar yn cael eu hela, ond ar ôl i grwpiau ymgyrchu - gan gynnwys yr RSPB - gwyno fe newidiodd eu safbwynt.

Mae'r grwpiau hynny wedi croesawu'r gwaharddiad fel modd o amddiffyn y boblogaeth.

Yn ôl amcangyfrifon, dim ond 20,550 o wyddau talcen-wen yr Ynys Las oedd ar ôl ar draws y byd yn 2017.

Llynedd roedd yr RSPB yn amcangyfrif bod poblogaeth gwyddau talcen-wen yr Ynys Las yng ngwarchodfa Ynyshir ger Machynlleth wedi gostwng 83% ers 1990.

Roedd yr elusen yn pryderu nad oedd gwaharddiad dros dro ar glybiau hela adar yn ddigon llym.

Ffynhonnell y llun, RSPB

Dywedodd Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn, fod y gwaharddiad gwirfoddol ar saethu'r gwyddau wedi bod yn "effeithiol" hyd yn hyn yng Nghymru.

Credai ymgyrchwyr nad oedd gwaharddiad gwirfoddol yn "ddigonol" er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol y DU.

Dywedodd yr RSPB fod y gwaharddiad llawn yn sicrhau fod Cymru yn cyd-fynd â gofynion rhyngwladol y wlad yn sgil yr African Eurasian Migratory Waterbirds Agreement (AEWA).

Ychwanegodd Mick Green, cadeirydd Cymdeithas Adaryddiaeth Cymru, eu bod nhw hefyd yn croesawu'r gwaharddiad.

'Cwbl ddiangen'

Mae cyfarwyddwr Cynghrair Cefn Gwlad Cymru, Rachel Evans, yn honni fod y gwaharddiad wedi "siomi" clybiau hela adar swyddogol sydd wedi bod yn gweithio'n galed i amddiffyn y rhywogaeth wrth gyd-fynd â'r gwaharddiad dros dro.

"Ni fydd gweithred AEWA yn cael unrhyw effaith ar ddyfodol y rhywogaeth yng Nghymru, cwbl yw hyn yw ymyriad gwbl ddiangen gan y sefydliad rhyngwladol.

"Dylai nhw ganolbwyntio ar fynd at wraidd y broblem, sef diffyg llwyddiant bridio'r aderyn."

Mae disgwyl i'r gwaharddiad gael ei gyflwyno yn Lloegr hefyd.