Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470

  • Cyhoeddwyd
Llyswen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Llyswen am 05:45 fore Sadwrn

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ym Mhowys ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lyswen am 05:45 ar 8 Rhagfyr, yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng Ford Focus a lori.

Bu farw gyrrwr y car, James Rogers, 30 oed o Landrindod, yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu yn parhau gyda'u hymchwiliad ac yn apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.