Trên ar daith Nadolig yn taro ci hela ger Llangollen
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Rheilffordd Llangollen fod nifer o deuluoedd a phlant ifanc ar y trên pan darodd yn erbyn y ci
Mae Rheilffordd Llangollen wedi cadarnhau bod un o'u trenau oedd ar daith Nadoligaidd wedi taro ci oedd yn rhan o helfa leol.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Corwen a Llangollen ddydd Sul wrth i'r trên gludo teuluoedd o ymweliad i groto Sion Corn yng Ngharrog.
Dywedodd y rheilffordd nad oedd gan yr helfa ganiatâd i fod ar y traciau, a bod ymchwiliad i'r digwyddiad wedi dechrau.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn ymchwilio i'r mater.

Dyw hi ddim yn glir sawl ci hela gafodd eu taro gan y trên
Dywedodd rheolwr busnes Rheilffordd Llangollen, Liz McGuinness: "O beth dwi'n deall roedd aelodau o helfa leol rhywle yn agos ar y llinell pan wnaeth o leiaf un o'r cŵn redeg ar y traciau tuag at drên oedd yn cario nifer o deithwyr - gan gynnwys plant ifanc - oedd yn mwynhau diwrnod allan Nadoligaidd.
"Dwi'n deall fod y trên wedi taro o leiaf un o'r cŵn. Dwi ddim yn siŵr a hyn o bryd pa mor wael y cafodd yr anifail ei anafu, ond fe wnaeth aelodau'r helfa ddod i gludo'r anifail neu anifeiliaid i ffwrdd."
Ychwanegodd nad oedd unrhyw un ar y trên wedi eu hanafu ond bod "y gyrrwr a'r criw yn amlwg wedi'u hysgwyd gan y digwyddiad anffodus".
"Rydw i'n ymddiheuro'n ddiffuant i bawb ar y Santa Special fod prynhawn ddylai fod wedi bod yn un dymunol wedi gorffen yn y fath fodd," meddai Ms McGuinness.
"Hoffwn ei gwneud hi'n glir nad oes gan yr helfa ganiatâd i fod ar dir Rheilffordd Llangollen ar unrhyw adeg.
"Bydd ymchwiliad llawn i'r digwyddiad nawr yn cael ei gynnal gan dîm rheolaeth y rheilffordd."

Mae Rheilffordd Llangollen yn rhedeg rhwng Llangollen a Chorwen
Dywedodd y prif arolygydd Jeff Moses o Heddlu'r Gogledd: "Rydyn ni'n deall bod cŵn wedi bod yn rhan o wrthdrawiad gyda thrên.
"Roedd hyn yn ddigwyddiad trist oedd yn ofnadwy ac annymunol i'r rheiny oedd yn dyst iddo.
"Cawsom nifer o alwadau am y peth amser cinio ddydd Sul, 9 Rhagfyr ac mae'n tîm troseddau cefn gwlad nawr yn ymchwilio wrth i ni geisio deall sut ddigwyddodd hyn."