Teyrnged teulu wedi gwrthdrawiad angheuol ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ar yr M4 yn gynnar fore Gwener.
Roedd Maurice Anthony Hemming - oedd yn cael ei adnabod fel Tony - yn gyrru car Vauxhall Vectra ar lôn ddwyreiniol y ffordd rhwng cyffyrdd Pont Abraham a Ffordd Pontarddulais ar y pryd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys eisoes wedi cadarnhau mai un cerbyd yn unig oedd yn y gwrthdrawiad ychydig wedi 04:00 ar 7 Rhagfyr.
Dywedodd teulu Mr Hemming eu bod yn "tristáu'n ddwfn yn sgil colled gŵr, tad, taid a mab annwyl, wedi ei gymryd iddi arnom ni mor ddisymwth".
"Bydd yn wastad yn ein meddyliau a'u calonnau am byth."