Apêl anrhegion: Cynnydd syfrdanol

  • Cyhoeddwyd
bagiau
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr eisoes wedi llenwi miloedd o fagiau i'w dosbarthu

Mae apêl arbennig ar gyfer plant difreintiedig yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd o 40% yn y galw am anrhegion Nadolig eleni.

Yn ôl trefnwyr Apêl Teganau Nadolig Sir Gâr mae hynny yn rhannol oherwydd tlodi a phryder rhai am y drefn budd-daliadau newydd, Credyd Cynhwysol.

Bu'n rhaid ymestyn y dyddiad cau a gwneud apêl funud olaf er mwyn casglu 1,000 o anrhegion ychwanegol.

Fe ddaeth y drefn Credyd Cynhwysol llawn i rym yn y sir ar 12 Rhagfyr a dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod y drefn newydd yn fwy teg ac "y gallai bobl hawlio hyd at 100% o daliadau o flaen llaw."

O ran yr apêl dywedodd Marie Griffiths, un o'r trefnwyr, eu bod eisoes wedi casglu 5,000 o anrhegion erbyn y dyddiad cau swyddogol - 2,000 yn fwy na'r llynedd.

Ond roedd hynny'n golygu eu bod dal 1,000 yn brin o'u nod, gyda phrinder penodol ar gyfer bechgyn yn eu harddegau

"Mae yna gynnydd mawr wedi bod yn y nifer sy'n cael eu henwebu gan ysgolion, gweithwyr cymdeithasol a chyrff eraill,

"Mae'n naid fawr ar y llynedd, mae yna blant ar ein stepen ddrws na fydd yn cael anrheg eleni," meddai

"Rydym yn aml yn meddwl am bobl sy heb fwyd adeg yma o'r flwyddyn, ond rydym yn anghofio am yr ifanc a bod nhw gorfod mynd heb anrhegion."

Mae'r dyddiad cau ar gyfer y casglu nawr wedi cael ei ymestyn i Noswyl Nadolig.

Disgrifiad o’r llun,

Maen nhw'n cael eu storio mewn warws ar gyrion Caerfryddin cyn cael eu dosbarthu

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r warws hefyd yn casglu bwyd ar gyfer teuluoedd difreintiedig

Dywedodd Mair Stephens, dirprwy arweinydd y cyngor sir, fod nifer o weithwyr a swyddogion y sir yn helpu a'u bod i gyd yn rhoi eu hamser yn wirfoddol ac yn ddi-dâl.

"Ma' 'na nifer o deuluoedd yn ein cymunedau yn poeni... oes ma' mwy o dlodi ond maen nhw'n poeni hefyd am y lwfans newydd, ac a fyddan nhw'n gorfod byw heb lwfans am bum wythnos neu fwy, ac maen nhw'n torri nôl. "

"Mae amseriad y cyflwyniad, yr adeg yma o'r flwyddyn, yn anffodus a dweud y lleiaf. "

Disgrifiad o’r llun,

Marie Griffiths a Nia Thomas, dau o'r tîm o wirfoddolwyr Apêl Teganau Nadolig

Mae yna nifer o leoliadau casglu ledled y sir, gan gynnwys adeiladau cyngor, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, busnesau, capeli ac eglwysi.

Ar ôl eu casglu mae'r anrhegion yn cael eu hanfon i warws, safle hen hufenfa, ar gyrion Caerfyrddin.

Yno, mae bagiau unigol yn cael eu paratoi ar gyfer pobl plentyn, yn ddibynnol ar ryw ac oedran, gyda chwe eitem ym mhob bag.

"Ar ôl llenwi'r bagiau mae'r sawl sy' wedi enwebu'r plant yn penderfynu a yw'n addas ar gyfer y plentyn dan sylw," meddai Ms Griffiths.

"Ond ni ddim yn eu lapio nhw, mae hynny er mwyn gwneud yn siŵr fod rhieni'r plant yn cael y pleser o wneud hynny cyn y Nadolig."

'Dim yn wastraff'

Dywedodd Nia Thomas, rheolwr busnes gydag Adran Addysg y sir ac un arall o'r tîm cydlynu, fod yr ymateb wedi bod yn hyn hael o bob rhan o'r sir.

"O ni yma yn casglu ac o fewn deg munud i'w gilydd ffoniodd canolfan henoed a chymdeithas dai lleol yn dweud eu bod nhw wedi bod yn casglu ac yn awyddus i drosglwyddo'r teganau i'r warws,,"

"Mae tua chwe eitem ym mhob bag a phopeth yn gorfod cael ei sortio mewn da bryd.

"Mae croeso i bawb ddod a theganau, i'r rhai nad sydd yn addas byddwn yn eu rhoi i siopau elusen, bydd dim byd yn mynd yn wast.

"Ac os ydy'n nhw'n cyrraedd ar ôl y diwrnod dosbarthu does dim angen i neb boeni byddant nhw'n mynd i storfa ac yn cael eu rhoi heibio ar gyfer apêl y flwyddyn nesa."

Disgrifiad o’r llun,

Eisoes mae 6,000 o anrhegion wedi eu casglu cyn y dyddiad cau

Mae nifer o ysgolion lleol hefyd wedi bod yn rhoi help llaw gyda'r gwaith casglu.

"Yn ogystal â theganau a hamperi bwyd i dros 200 o deuluoedd, mae'r apêl hefyd wed bod yn paratoi bagiau hylendid neu wellbeing bag," meddai Ms Griffiths.

"Am y tro cyntaf eleni bydd y bagiau yma yn cynnwys pad ar gyfer misglwyf, ac rydym yn cydnabod fod prinder arian yn effeithio ar iechyd personol pobl ifanc."

Cafodd Apêl Teganau Nadolig Sir Gâr ei sefydlu yn 2011 ac mae'r nifer o anrhegion sy'n cael eu casglu a'r galw amdanynt wedi cynyddu bob blwyddyn.

Mewn ymateb i'r feirniadaeth am y credyd cynhwysol dywedodd llefarydd ar yr Adran Gwaith a Phensiynau y gallai bobl hawlio hyd at 100% o daliadau o flaen llaw.

"Mae Credyd Cymhwysol yn disodli system lwfansau oedd yn hen ffasiwn a chymhleth.

"Rydym yn gwrando ar bryderon pobl ac wrth i'r system gael ei chyflwyno rydym wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ôl o £4.5bn."

Yn ôl yr Adran mae ystadegau diweddara yn dangos fod 84% o'r rhai sy'n hawlio yn fodlon gyda'r system.