Ailstrwythuro Cyfoeth Naturiol yn 'cyfaddawdu'n ddifrifol'
- Cyhoeddwyd
Gallai cynlluniau mawr i ailstrwythuro prif gorff amgylcheddol Cymru "gyfaddawdu'n ddifrifol" ar ei allu i warchod natur ac amharu'n bellach ar ei enw da, yn ôl staff.
Daw'r rhybudd mewn adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer penaethiaid Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sydd wedi dod i law y BBC.
Mae'n crybwyll hefyd bod morâl ymhlith y gweithlu ar ei "lefel isaf erioed" a bod angen darparu gwell gymorth iechyd meddwl.
Dywedodd CNC ei bod wedi gwrando ar yr adborth a'i bod am addasu ei gynlluniau, dolen allanol.
Mewn cyfweliad â BBC Cymru dywedodd y prif weithredwr, Clare Pillman ei bod wedi bod yn "amser anodd iawn i'r sefydliad", ond mynnodd y byddai ailstrwythuro CNC o fudd i amgylchedd Cymru.
Ychwanegodd bod angen newid er mwyn addasu i ddeddfwriaeth newydd a sicrhau bod y corff yn fforddiadwy ar gyfer y dyfodol.
Beth mae'r adroddiad yn ei ddweud?
Ymatebodd bron i ddwy ran o dair o 2,007 o staff CNC i ymgynghoriad ar-lein cyn bod newidiadau "sylweddol" yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill 2019.
Cafodd yr adborth ei ddadansoddi gan ymgynghorwyr annibynnol mewn adroddiad 90 tudalen.
Datgelodd bod staff yn gwrthwynebu'r newid "yn gryf" ac yn hynod feirniadol o'r ffordd yr oedd yn cael ei reoli.
Roedden nhw'n dadlau na fyddai'r strwythur newydd yn eu galluogi i "gyflawni gofynion statudol ac anghenion rheoleiddio'r sefydliad", na chwaith yn darparu "gwasanaeth addas i bobl ac amgylchedd Cymru", meddai.
Rhybuddiodd un rheolwr yn ne Cymru y gallai'r newidiadau arwain at "fethiant gweithredol trychinebus", gan ragweld cynnydd mewn achosion o lygredd a cholledion bywyd gwyllt yn cyflymu.
Roedd eraill yn pwysleisio bod y sefyllfa'n ychwanegu at lefelau straen, gydag un gweithiwr yn dweud nad oedden nhw'n cael eu "gwerthfawrogi" a'u bod yn "ddiwerth".
Galwodd un arall am "gefnogaeth" i'r rhai sy'n gweithio ar lawr gwlad, gan ddweud bod y sefyllfa'n ddigon i "chwalu'r enaid".
Daeth yr adroddiad, gan asiantaeth gyfathrebu Canta, i'r casgliad bod "angen i Gyfoeth Naturiol Cymru ddangos ei fod yn gwrando ar yr hyn mae'r staff yn ei ddweud".
Beth yn union yw'r newidiadau?
Cyfoeth Naturiol Cymru yw cwango mwyaf Cymru, yn gyfrifol am bopeth o amddiffyn cynefinoedd a bywyd gwyllt i oruchwylio gorsafoedd ynni a safleoedd prosesu gwastraff.
Cafodd ei ffurfio yn 2013 ar ôl i dri chorff blaenorol gael eu huno - proses "heriol" yn ôl ei gyn-brif weithredwr.
Yn dilyn toriadau ariannol ac i'r gweithlu, mae'r corff wedi wynebu nifer o benawdau anodd, tra bod arolygon mewnol wedi datgelu problemau morâl ymhlith staff.
Ar yr un pryd, mae deddfau newydd - gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) - wedi ychwanegu at ei restr hir o gyfrifoldebau.
Er mwyn ceisio creu "sefydliad o safon fyddai'n gweithio ar ran cwsmeriaid a chymunedau", mae'r corff wedi bod yn gweithio ar gynllun mawr i weddnewid strwythur y gweithlu.
Y bwriad yw cyflwyno swydd ddisgrifiadau a ffyrdd newydd o weithio i staff ar lawr gwlad.
Yn hytrach na chael cyfres o unedau arbenigol, bydd disgwyl i staff weithio mewn timau mawr fydd yn darparu ystod o wasanaethau i un o chwe ardal benodol.
Bydd seithfed tîm yn gofalu am yr amgylchedd morol.
Yn ôl CNC bydd y system newydd yn golygu mwy o gydweithio mewn meysydd allweddol fel coedwigaeth, lles natur, pysgodfeydd a llygredd.
'Bylchau mewn gwybodaeth'
"Edrych ar ôl yr amgylchedd yn ei gyfanrwydd, a dod a phethau at ei gilydd yw'r nod," meddai Tim Jones, cyfarwyddwr gweithredol CNC ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru.
Ond yn ôl adroddiad Canta mae'r staff yn ofni y gallai olygu bod arbenigedd penodol ar wasgar a dan bwysau, gan greu timau "sy'n gallu gwneud ychydig o bopeth, ond dim byd yn dda".
Mae pryderon y bydd "bylchau cynyddol mewn gwybodaeth a gostyngiad mewn gallu technegol a chymhwysedd", gan beryglu llwyddiant y corff yn y dyfodol.
Mae asesiad o sgiliau staff ar gyfer y swyddi newydd yn digwydd, ac fe allai rhai wynebu proses gystadleuol.
Dan y cynlluniau bydd tua 100 o weithwyr yn colli eu dyletswyddau rheoli staff hefyd.
Mae nifer o weithwyr wedi cysylltu â BBC Cymru i gyfleu pryderon, dywedodd un oedd am aros yn anhysbys bod y sefyllfa'n "llanast".
Ychwanegodd fod perygl dybryd na fydd y "bobl iawn yn y swyddi cywir" ac roedd yn rhagweld y byddai staff profiadol yn gadael.
"Mae 'na lawer iawn o bryder, dynion mewn oed yn eu dagrau," meddai.
"Mae newid wastad yn achosi straen ond y peth pwysig yw'r modd dy'ch chi'n rheoli'r sefyllfa, ac mae'n amlwg nad yw hyn yn rhan o'r ystyriaeth wrth weld faint o effaith mae hyn yn ei gael."
Sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb?
Dywedodd y corff ei fod wedi rhoi "ystyriaeth lawn a meddylgar" i'r ymgynghoriad ac wedi cytuno ar newidiadau i'r cynlluniau.
Maen nhw'n cynnwys cadw gweithwyr sy'n arbenigo mewn llifogydd fel dau dîm gwahanol, un yn y gogledd a'r llall yn y de, yn dilyn pryder mawr gan staff ynglŷn â goblygiadau rhannu'r arbenigedd rhwng chwe thîm.
Yn ogystal, bydd 30 o swyddi dros dro ar gyfer staff sy'n canolbwyntio ar gadwraeth natur yn cael eu troi'n rhai parhaol.
Dywedodd Ms Pillman ei bod hi wedi bod yn falch o gael "adborth da, gonest ac agored gan staff".
"Mae hwn yn newid sefydliadol o dop y corff i'r gwaelod ac mae hynny'n creu ansicrwydd a heriau i bobl," meddai.
Dywedodd bod cefnogaeth gref ar gyfer staff ond ychwanegodd ei bod poeni "am yr holl bobl anhygoel sy'n gwneud gwaith gwych, bod y newidiadau mor anodd iddyn nhw".
"Erbyn hyn mae'n gyfrifoldeb arnai i gael strwythur da y gallwn ei fforddio, sy'n ein galluogi ni i gyflawni ein gofynion deddfwriaethol ac yn galluogi pobl i wneud y swyddi sy'n gwneud cyfraniad mor bwysig i'r amgylchedd yng Nghymru."
Pa ymateb sydd wedi bod?
Dywedodd Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru dros yr amgylchedd, mai diffyg adnoddau sydd wedi arwain at y "fath adwaith gan staff", gan ddisgrifio'r sefyllfa fel un "cwbl anghynaladwy".
Pwysleisiodd bod CNC wedi gweld toriad o 35% mewn termau real i'w gyllideb gan Lywodraeth Cymru ers ei sefydlu.
"Y neges sylfaenol yw allwch chi ailstrwythuro gymaint ag yr y'ch chi eisiau, allwch chi newid cyfrifoldebau, newid swydd-ddisgrifiadau - ond ar ddiwedd y dydd os nad ydych chi'n darparu adnoddau ar y lefel y dylai hi fod, mae'n gwbl annheg ac anymarferol i ddisgwyl i'r gweithwyr ddelifro eu gwaith," meddai.
"Nid dim ond y staff fydd yn dioddef - bydd yr amgylchedd yn dioddef, bydd cynllunio yn dioddef, bydd yr economi yn dioddef, bydd Cymru'n dioddef."
Dywedodd y dylai pwyllgor amgylchedd y Cynulliad ystyried y mater ac ysgrifennu at y prif weinidog newydd Mark Drakeford.
'Adnoddau digonol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai mater ar gyfer CNC yw polisïau cyflogaeth y corff.
Ychwanegodd: "£185m oedd incwm CNC yn 2017/18, a Llywodraeth Cymru gyfrannodd £118m o hynny.
"Rydyn ni'n hyderus bod gan CNC yr adnoddau digonol i gyflawni ei rôl bwysig yn amddiffyn ac ehangu ein hamgylchedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018