Cymdogion yn Y Bala'n dathlu'r Nadolig fesul ffenestr
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion un o strydoedd Y Bala wedi mynd i hwyl yr ŵyl trwy fod yn rhan o gynllun calendr adfent byw.
Bob dydd drwy'r mis mae ffenest newydd yn cael ei dadorchuddio yn un o dai Heol Tegid.
Dywedodd un o'r trefnwyr, yr awdures Clare Mackintosh: "Ges i'r syniad ar-lein bod tref arall wedi gwneud ffenest adfent byw.
"O'n ni'n meddwl ei fod o'n syniad da i ddod â phawb yn Heol Tegid at ei gilydd."
Mae ffenestr rhif saith y calendr yn nhŷ Rhian Thompson.
"Mae 'na lot o oleuadau," meddai. "Rhyw elfen Norwyeg, Sgandinafaidd o'n i'n ceisio mynd amdano fo.
"Mae pob un yn wahanol - fyny'r ffordd yn fan 'cw ma' nhw wedi gwneud ffenest efo tŷ sinsir... cymeriadau sinsir a phob peth yn y ffenest yn sinsir ac yn hollol fwytadwy.
"'Dwi'n gobeithio bod hyn i gyd yn codi hwyliau pawb gan greu awyrgylch. ac yn bendant mae'r Nadolig wedi cyrraedd yma yn gynharach eleni."
Mae siop anrhegion Ria Fergus Jones - Siop Ria - ar y gornel lle mae Heol Tegid yn cwrdd â Stryd Fawr Y Bala.
Dywed bod hi'n bwysig bod y dref yn lliwgar ac yn groesawgar ar gyfer tymor y Nadolig - tymor sy'n eithriadol o bwysig i fusnesau fel un hithau.
"Mae jyst yn rhoi hyder i'r cwsmeriaid hefyd bod nhw'n cael rhywbeth neis a bod 'na bethau deniadol i gael yma," meddai.
"Yn sicir mae'r [adfent] yn rhoi naws Nadoligaidd ac yn gwneud i bobol awydd gwario, gobeithio."
Bydd trigolion y stryd yn canu carolau yno noswyl y Nadolig gan wahodd pobl eraill yr ardal i ymuno â nhw ac i weld y ffenestri adfent gwahanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2016
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018