14 mlynedd o anrhegion Nadolig 'annisgwyl' gan gymydog

  • Cyhoeddwyd
Anrheg NadoligFfynhonnell y llun, Owen Williams

Mae teulu o Fro Morgannwg wedi eu syfrdanu ar ôl i gymydog fu farw yn ddiweddar adael gwerth 14 mlynedd o anrhegion Nadolig i'w merch.

Roedd Ken, oedd yn ei 80au hwyr, yn byw yn agos at Owen a Caroline Williams yn Y Barri ers dwy flynedd.

Dywedodd y ddau fod Ken wedi "dotio" ar eu merch ddyflwydd oed, Cadi.

Bu farw Ken yn ddiweddar, a nos Lun fe ddaeth ei ferch heibio'r tŷ er mwyn cyflwyno'r anrhegion.

"Roedd ganddi sach blastig fawr, roeddwn i'n meddwl ei bod hi am ofyn i mi daflu rhywfaint o sbwriel," meddai Mr Williams.

"Ond, dywedodd hi mai dyma'r holl bethau yr oedd ei thad wedi ei gadw ar gyfer Cadi. Roedden nhw'i gyd yn anrhegion Dolig ar ei chyfer hi."

Ffynhonnell y llun, Owen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y teulu roedd Ken wedi "dotio" gyda Cadi

Yn ôl Mr Williams, mae hi'n anodd disgrifio'r holl beth gan ei fod "mor annisgwyl".

Mae'r teulu yn dweud eu bod nhw eisoes wedi agor un o'r anrhegion, ond yn ansicr ynglŷn â beth i'w wneud gyda'r gweddill.

Ychwanegodd fod ei gymydog "wir dipyn yn gymeriad".