Côr Crymych a'r cylch yn mabwysiadu cyfansoddwr

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun Adopt a Composer, mudiad Making Music, yn rhoi'r cyfle i gorau amatur, 'ensembles' cerddorol neu gerddorfeydd gydweithio â chyfansoddwr. Mae'r cynllun yn para blwyddyn, a'r nod yw cydweithio i baratoi darn gwreiddiol ar gyfer cyngerdd premier mawreddog ac ymddangosiad ar BBC Radio 3.

Un o'r corau sydd wedi cymryd rhan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw Côr Crymych a'r Cylch. Suzanne Griffiths-Rees oedd cadeirydd y côr drwy gydol y cyfnod cyffrous yma, a bu hi'n siarad â Cymru Fyw am y broses o gael eu derbyn a'r profiadau maen nhw wedi eu cael dros y 12 mis diwethaf.

line
Suzanne Rees (canol) gyda Max Charles Davies, eu cyfansoddwr mabwysiedig ac Angharad Jones, arweinyddes y côr
Disgrifiad o’r llun,

Max Charles Davies, cyfansoddwr mabwysiedig Côr Crymych a'r Cylch, gyda Suzanne Griffiths-Rees ac Angharad Jones, arweinyddes y côr

"Wnaethon ni roi'r cais ar gyfer cynllun Adopt a Composer ddiwedd llynedd. O'n ni fel côr yn credu y byddai'n braf cael cynrychiolaeth o Gymru yn y prosiect ac yn arbennig cynrychiolaeth oedd nid dim ond yn Gymreig ond yn Gymraeg.

"Mae ymarferion y côr yn Gymraeg a phob un o'r aelodau yn Gymry neu'n ddysgwyr, ac er bod fi'n dweud fy hun, ni'n gôr eithaf safonol hefyd, felly o'n i'n credu fydden ni'n berffaith.

"Pan wnaethon ni glywed bod ni wedi cael ein derbyn ar y prosiect aeth Angharad yr arweinydd a fi lan i adeilad y Theatres Trust yn Llundain er mwyn darganfod gyda pa gyfansoddwr o'n ni wedi ein 'paro'.

"Y dyn lwcus oedd Max Charles Davies o Gaerdydd, a'r peth cyntaf wnaeth Max, Angharad a fi oedd eistedd lawr yn y neuadd a dweud...'reit... beth ni'n mynd i wneud?'

Y Côr ar eu taith o Ogledd Iwerddon eleni yn paratoi i ganu ar y 'Giant's Causeway'
Disgrifiad o’r llun,

Y Côr ar eu taith o Ogledd Iwerddon eleni yn paratoi i ganu ar y Giant's Causeway

"O'n ni'n awyddus i adlewyrchu natur Cymraeg a natur lleol y côr ac yn benderfynol bod yr iaith Gymraeg yn mynd i chwarae rhan bwysig yn ein cynnyrch. Ac yn wir dyna sydd wedi digwydd.

"Rydyn ni'n paratoi un darn gwreiddiol ar gyfer y premiere, er mae'n rhaid i ni hefyd greu tri darn arall yn ogystal. Felly ein nod ni oedd dangos safle'r côr yn lleol, o fewn Cymru, o fewn Prydain ac o fewn y byd!

"Ar gyfer y brif ddarn, mae cadeirydd presennol y côr, Eifion Daniel, wedi ysgrifennu geiriau Cymraeg i ddarn o'r enw Y Gors Fawr. Mae BBC Radio 3 wedi bod lawr yma yn recordio'r côr yn perfformio'r darn a fydd hwnnw'n cael ei ddarlledu ym mis Ionawr 2019.

Ymarfer ar gyfer y perffomiad mawr yn Neuadd Colston, Bryste
Disgrifiad o’r llun,

Paratoi i ymarfer ar gyfer y perffomiad mawr yn Neuadd Colston, Bryste

"Ond mae wedi bod yn brofiad unigryw i ni fel côr i gael gweithio gyda chyfansoddwr proffesiynol fel Max, ac yn wir mae Max wedi llwyddo i fanteisio ar y cynllun hefyd.

"Mae wedi cael y cyfle i gael ei fentora gan gyfansoddwr mwy profiadol fel ei ran ef o'r cynllun, ac felly mae pawb yn manteisio o rannu profiad a chydweithio.

"Ac mae'r cydweithio wedi mynd tu hwnt i waith penodol y prosiect. Llynedd, cafodd y côr wahoddiad i ganu'r anthem yn Stadiwm y Mileniwm cyn gêm Cymru yn erbyn Georgia a ddaeth Max ar y cae gyda ni i ganu ac i brofi'r wefr.

Ymarfer ar gyfer y perffomiad mawr yn Neuadd Colston, Bryste
Disgrifiad o’r llun,

"Jiw, ma'r Colston Hall ma'n wompyn o le!"

"Mae'r côr hefyd wedi bod lan i Fryste, lle mae Max yn ddarlithydd cyfansoddi a cherddoriaeth yn y brifysgol yna, a gymeron ni ran mewn perfformiad o ddarn Karl Jenkins, Song of the Earth, gyda cherddorfa lawn yn Neuadd Colston... profiad anhygoel.

"Mae wedi bod yn braf cael bod yn rhan o rywbeth, lleol, gyda phobl neis yn gwneud cerddoriaeth da... ond yn fwy pwysig, mae wedi rhoi'r cyfle i gôr lleol gael cynulleidfa genedlaethol."

Fe fydd Côr Crymych a'r Cylch ar BBC R3 am 21:00 ar Ionawr 15

line

Hefyd ar Cymru Fyw: