Dathlu hanner canmlwyddiant Y Bathdy Brenhinol

  • Cyhoeddwyd
Bathdy Brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Bathdy Brenhinol yn cynhyrchu 700 o geiniogau newydd bob munud.

Mae'n hanner can mlynedd union ers i'r Bathdy Brenhinol symud o Lundain i Lantrisant ac yn ystod yr wythnos bydd arddangosfa arbennig yn agor i nodi'r digwyddiad.

Cafodd y bathdy ei agor gan y Frenhines ym mis Rhagfyr 1968, a dwy flynedd yn ôl fe gafodd y ganolfan ymwelwyr ei hagor gan y Tywysog Charles.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld am flwyddyn.

Dywedodd Tracy Morris, Rheolwr Marchnata a Digwyddiadau, Profiad y Bathdy Brenhinol: "Mae hi'n mynd i fod yn dipyn o arddangosfa ac yn cynnig pob math o brofiadau.

"Bydd pobl, er enghraifft, yn cael y cyfle i godi bwliwn o aur. Mae e'n pwyso 400 owns ac yn werth £400,000 ar hyn o bryd - mae pris aur yn newid o ddydd i ddydd wrth gwrs."

Arian degol

Yn ogystal ag arian Prydeinig mae'r bathdy yn cynhyrchu medalau coffa ac yn 2012 fe enillon nhw'r cytundeb i gynhyrchu medalau ar gyfer y Gemau Olympaidd.

"Mae'r gwaith wedi ehangu yn fawr," meddai Ms Morris. "Ry'n ni'n neud popeth heblaw y Victoria Cross - cwmni arall sydd â'r cytundeb i 'neud rheina."

Ffynhonnell y llun, Y Bathdy Brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Mae 200,000 o bobl wedi bod yng nghanolfan yr ymwelwyr hyd yma

Ym mis Mai 2016 fe agorodd y Bathdy ei ddrysau am y tro cyntaf i'r cyhoedd ac eisoes mae Y Profiad wedi denu dros 200,000 o ymwelwyr.

"Mae'n brofiad ffantastig - dim ond yn y Bank of England a fan hyn ry'ch chi'n gallu cael profiad fel hyn," meddai Ms Morris.

"Y penderfyniad i gyflwyno arian degol oedd y rheswm bod y bathdy wedi symud o Lundain i Gymru.

"Roedd angen tipyn o dir ar gyfer peiriannau modern a digon o bobl i'w hyfforddi a mae'n debyg bod Llantrisant yn cynnig hynny."