Canolfan ymwelwyr newydd i'r Bathdy Brenhinol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Bathdy Brenhinol wedi dadorchuddio cynlluniau i ddatblygu canolfan ymwelwyr yn ei bencadlys yn Llantrisant, de Cymru.
Yn y tro cyntaf yn ei hanes bydd y Bathdy yn agor ei ddrysau er mwyn i'r cyhoedd gael gweld y broses o gynhyrchu darnau arian.
Mae'r Bathdy wedi bodoli am dros 1000 o flynyddoedd ac mae'n cynhyrchu darnau arian ar gyfer tua 60 o wledydd ledled y byd yn ogystal â Phrydain.
Sicrhaodd y Bathdy Brenhinol grant o £2.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru tuag at godi'u canolfan newydd, a fydd yn costio £7.7 miliwn.
Bydd y cyllid yn diogelu 147 o swyddi yn adran darnau arian coffa y Bathdy, tra hefyd yn creu nifer o swyddi newydd wrth ddatblygu a staffio'r ganolfan ymwelwyr.
'Atyniad eiconig i Gymru'
Dywedodd Shane Bissett, Cyfarwyddwr Darnau Arian Coffaol a Bwliwn y Bathdy Brenhinol: "Nid yw'r Bathdy Brenhinol ar agor i'r cyhoedd fel arfer, ac eithrio ar achlysuron arbennig iawn a thrwy wahoddiad yn unig.
"Rydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau i ymweld â'r Bathdy gan aelodau o'r cyhoedd bob blwyddyn ac rydym wedi bod yn archwilio'r posibiliad o gael canolfan ymwelwyr ers peth amser.
"Mae'n rhoi pleser mawr i ni gyhoeddi y gall hyn yn awr fynd yn ei flaen, ac y bydd yn bosib i bobl ddod yma a gweld gwaith un o drysorau cenedlaethol Prydain."
Mae disgwyl y bydd hyd at 200,000 o ymwelwyr o'r DU ac ymwelwyr tramor yn dod i'r ganolfan newydd bob blwyddyn.
Bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i fynd o amgylch y Bathdy Brenhinol i weld sut yn union mae'r darnau arian maent yn eu defnyddio bob dydd yn cael eu dylunio a'u gwneud.
Wrth gyhoeddi'r cyllid yn ystod ymweliad â'r Bathdy Brenhinol, dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, Edwina Hart: "Bydd y ganolfan ymwelwyr newydd yn atyniad i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn a bydd yn arddangos cynnyrch unigryw ac adnodd treftadaeth gyfoethog ochr yn ochr â ffatri byw.
"Mae gan y prosiect y potensial i fod yn atyniad eiconig i Gymru."
Bydd y gwaith o adeiladu'r ganolfan ymwelwyr pwrpasol yn Llantrisant yn dechrau yn ystod y gwanwyn ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn ystod 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd14 Mai 2012