Geraint Thomas yn ennill Personoliaeth Chwaraeon 2018

  • Cyhoeddwyd
Geraint Thomas after winning the Tour de FranceFfynhonnell y llun, Reuters

Y Cymro Geraint Thomas sydd wedi ennill Personoliaeth Chwaraeon BBC 2018 a hynny wedi iddo ennill ras Tour de France yn gynharach eleni.

Mewn pleidlais gyhoeddus pencampwr Formula 1 Lewis Hamilton oedd yn ail a'r pêl-droediwr Harry Kane oedd yn drydydd.

Geriant Thomas yw'r Cymro cyntaf i ennill Personoliaeth Chwaraeon y BBC ers i Ryan Giggs gipio'r tlws yn 2009.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i Thomas gan enillydd y llynedd Mo Farah.

Yn gynharach y mis hwn enillodd Thomas Bersonoliaeth Chwaraeon BBC Cymru.

Mae nifer o bobl wedi ei longyfarch ar y cyfryngau cymdeithasol - yn eu plith Gareth Bale.

Roedd yna neges o longyfarchion hefyd gan gyn-ysgol Thomas sef Ysgol yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.