Pleidlais diffyg hyder yn llywodraeth May 'dal yn bosib'
- Cyhoeddwyd
Mae "dal yn bosib" y gallai Llafur alw pleidlais o ddiffyg hyder yn llywodraeth Theresa May cyn y Nadolig, yn ôl un o ASau Cymreig y blaid.
Dywedodd Stephen Doughty y gallai'r blaid gyflwyno cynnig yr wythnos hon er mwyn ceisio ei disodli fel prif weinidog.
Ond mynnodd AS De Caerdydd a Phenarth mai mainc flaen Llafur fyddai'n dewis pryd oedd yr adeg orau i wneud hynny.
Hyd yn hyn mae Jeremy Corbyn wedi gwrthod gwneud, gan ddweud ei fod yn aros nes y bydd yn siŵr o ennill y bleidlais.
'Hoffwn weld etholiad'
Dan y Ddeddf Seneddau Tymor Penodol 2011, mae mwyafrif syml yn Nhŷ'r Cyffredin yn gallu disodli'r llywodraeth os ydyn nhw'n dymuno.
Byddai hynny'n golygu bod angen cynnal etholiad cynnar, oni bai bod llywodraeth newydd yn gallu cael ei ffurfio o fewn 14 diwrnod.
"Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn sicr ar y bwrdd," meddai Mr Doughty.
"Mae'n mainc flaen ni angen penderfynu pryd yw'r adeg iawn ar gyfer hynny ac yn amlwg maen nhw eisiau sicrhau cymaint o gefnogaeth â phosib.
"Hoffwn weld y llywodraeth yma'n cael eu sgubo ymaith, hoffwn i weld etholiad cyffredinol.
"Ond yn y bôn os yw'n dod i hynny a bod y cynigion yna'n methu, mae gan Lafur bolisi clir sef i ymgyrchu dros bleidlais gyhoeddus ar gytundeb [Brexit Theresa May]."
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Mrs May oroesi pleidlais o hyder ynddi ymhlith ASau Ceidwadol, a hynny o 200 i 117.
Byddai'r cynnig hwnnw wedi ei disodli hi fel arweinydd y Torïaid, yn hytrach na dymchwel y llywodraeth fel y mae Llafur yn gobeithio ei wneud.
Daeth hynny wedi i Lywodraeth y DU dynnu pleidlais ar gytundeb Brexit Mrs May, gan gyfaddef bod ASau yn debygol o'i wrthod.
Ddydd Llun dywedodd y Prif Weinidog nad oedd hi'n credu mai cynnal refferendwm arall ar Brexit oedd yr ateb i'r impasse gwleidyddol presennol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2018