Ceisio dal pedwar hebog Harris sy'n rhydd ym Mhen Llŷn

  • Cyhoeddwyd
hebog Harris
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n awyddus i ddal yr hebogau, gan eu bod yn hela anifeiliaid eraill

Mae pedwar hebog sy'n gynhenid i Fecsico yn rhydd ym Mhen Llŷn.

Mae uned troseddau gwledig Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddihangfa'r hebogiaid Harris, ac yn ceisio darganfod a wnaeth yr adar gael eu rhyddhau yn fwriadol neu drwy ddamwain.

Mae'n anghyfreithlon i ryddhau unrhyw rywogaeth nad yw'n gynhenid i'r wlad yn y DU.

Yn ogystal â hynny, mae'r heddlu'n awyddus i'w dal am fod perygl i'r adar ymosod ar a bwyta anifeiliaid ac adar eraill - gan gynnwys tylluanod, cwningod a chathod.

Pe baent yn bridio, mae'n debyg y byddent yn fygythiad i fywyd gwyllt lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hebogwr Geraint Williams a'i hebog Harris yntau, Dawn, yn cynorthwyo'r heddlu gyda cheisio dal yr adar

Cafodd yr adar eu gweld ddiwethaf mewn coedwig yn Rhiw, ger Aberdaron.

Mae'r hebogwr Geraint Williams a'i hebog yntau, Dawn, yn cynorthwyo'r uned droseddau gwledig gyda cheisio dal yr adar.

Y gobaith yw bod y pedwar hebog yn gweld Dawn, ac yn dod "i fusnesu" a symud yn nes.

Hela 'fel bleiddiau'

"Mae 'hain yn hela fatha bleiddiau, 'da nhw'm yn hela bob yn un, maen nhw'n hela fel pac.

"Am bod 'na bedwar y broblem ydy y gwnawn nhw ymosod ar bob math o fywyd gwyllt - tylluanod yn enwedig gan eu bod nhw'n byw yn y coed...

"Maen nhw'n mynd ar ôl cwningod, mynd ar ôl wiwerod, be' 'da chi ddim isio ydy iddyn nhw sylweddoli lle mae pobl yn byw, lle mae 'na gathod."

Disgrifiad,

Pedwar hebog yn rhydd ym Mhen Llŷn

Bu Newyddion 9 yn ffilmio ymgais yr heddlu a Mr Williams i ddenu'r hebogiaid atynt, ac er iddynt ddod i'r amlwg, nid oedd modd eu dal.

Ond wrth wylio ffilm y criw newyddion yn ôl, sylwodd Mr Williams a'r heddweision bod gan yr hebogiaid gareiau wedi'u clymu wrth eu coesau.

Oherwydd hynny, y gred yw bod y pedwar aderyn wedi dianc o afael rhywun dibrofiad yn hytrach na'u bod wedi cael eu rhyddhau'n fwriadol.

Disgrifiad o’r llun,

Sylwodd swyddogion yr heddlu ar gareiau ar goes yr adar - sy'n awgrymu eu bod wedi dianc yn hytrach na wedi'u rhyddhau

Esboniodd PC Dewi Evans bod gweld y careiau am eu coesau'n "cael gwared a lot o'r ochr gyfreithiol, ond wrth gwrs wedyn mae'n dal rhaid eu cael allan o'r gwyllt".

"Felly dwi wedi dechrau siarad yn barod hefo Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i weld be' 'di'r camau nesaf 'efo tynnu nhw o'r gwyllt," meddai.

Bydd y swyddogion a Mr Williams yn dychwelyd i'r goedwig yn y flwyddyn newydd gyda Dawn, yn y gobaith o ddenu'r adar atynt unwaith eto.