'Haws' sefydlu banc yn Wrecsam na Llundain

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Haws' sefydlu banc yn Wrecsam na Llundain yn ôl Mark Jones

Mae dyn o Wrecsam sy'n sefydlu banc newydd ar-lein yn dweud ei bod hi wedi bod yn "haws" datblygu'r cwmni yn Wrecsam na petai wedi gwneud hynny yn Llundain.

Cafodd Chetwood Financial ei ddechrau gan un o gyn-gyfarwyddwyr banc yr HSBC, Andy Mielczarek, ac maen nhw'n gobeithio dyblu nifer eu staff i tua 100.

Mae'r pencadlys yn Wrecsam yn cyflogi mewn meysydd fel codio a meddalwedd, datgelu twyll, rheoli risg a chydymffurfio.

Maen nhw'n aros am gadarnhad o'u trwydded i gadw cynilion.

'Talent'

"Un o brif fanteision sefydlu yma ydy nad oes 'na unrhyw un arall yn gwneud rhywbeth fel hyn.

"Mae 'na gyflenwad da o dalent...ac mae'n haws, mewn ffordd od, i ni ddod o hyd i'r bobl iawn yma na petaem ni yn Llundain.

"Petawn i'n cerdded ar y stryd yn Llundain gan ddweud 'Dwi'n sefydlu banc' y tebygrwydd ydy y byswn i'n taro mewn i rywun yn deud 'a fi'.

"Dwi'n meddwl bod 'na ormod o'r math yma o fusnesau yno ac mae hynny o fantais i ni yma," meddai Mr Mielczarek.

Andy Mielczarek
Disgrifiad o’r llun,

Andy Mielczarek yw pennaeth y banc

Mae Chetwood Financial wedi bod yn benthyca o dan eu brand LiveLend ers blwyddyn.

Agorodd eu swyddfa ar Barc Technoleg Wrecsam ym Medi 2017 gyda £750,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru.

Ym Mawrth 2018, mi gafodd y cwmni fuddsoddiad o £150m o grwp Elliot Advisors.

Mae Chetwood yn defnyddio technoleg ddigidol y cwmwl gan ei chwaer-gwmni Yobota, ac yn honni eu bod yn cynnig cynnyrch ariannol newydd fel cyfraddau llog sy'n newid wrth i sgôr credyd wella yn ystod cyfnod benthyciad .

Yn ôl Chetwood dyma'r tro cyntaf i'r syniad gael ei gyflwyno i'r diwydiant.

'Costau Llundain'

Mae'n dweud bod y rhan fwyaf o'u gweithwyr yn byw o fewn awr i Wrecsam a'u bod yn bwriadu recriwtio rhagor yn lleol.

"Mae 'na ryw hanner dwsin o arbenigwyr sy'n cymudo'n wythnosol o Lundain.

"Ond mae 'na ryw 52 neu 53 ohonom ni bellach ac maen nhw wedi eu recriwtio'n lleol. Mae'r rhelyw bobl sy'n gweithio yma yn byw yn yr ardal leol."

Graeme Yorston
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn heddiw "dydy o ddim bwys ble'r ydych chi yn sefydlu banc" meddai cyn-Brif Weithredwr Cydmeithas Adeiladu y Principality, Graeme Yorston

Yn ôl Graeme Yorston, cyn-Brif Weithredwr Cydmeithas Adeiladu y Principality: "Mae lle'n union ydych chi'n llawer llai pwysig erbyn hyn oherwydd cysylltiadau.

"Yn hanesyddol, roedd hi'n bwysig cael eu cysylltiad 'efo Llundain, y rheoleiddwyr, mae Banc Lloegr yno, ond mae llawer o'r banciau newydd yn medru sefydlu y tu allan i'r Ddinas."

Ychwanegodd: "Mae 'na lawer o resymau i sefydlu y tu allan i Lundain, yn bennaf costau.

"Os ewch chi i ardal lle mae'r arbenigwyr, mi fyddwch chi'n talu am y bobl yna.

"Mae 'na ganolfannau eraill sy'n datblygu y tu allan i Lundain. Dydy o ddim o bwys ble'r ydych chi."