Wrecsam yn penodi Graham Barrow fel rheolwr newydd

  • Cyhoeddwyd
Graham BarrowFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Graham Barrow wedi cael ei benodi fel rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Mae Barrow wedi bod yn rheoli'r clwb dros dro ers i Sam Ricketts ymddiswyddo er mwyn ymuno ag Amwythig.

Yn y gorffennol mae Barrow, 64, wedi rheoli Wigan Athletic, Caer a Bury.

Mae ei gytundeb fel rheolwr yn parhau nes 2021.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb: "Mae Graham wedi gwneud argraff ar bawb ers ymuno yn yr haf.

"Yn ogystal â'r staff mae wedi bod yn rhan enfawr o'r dechrau da rydyn ni wedi ei gael i'r tymor."

Bydd Wrecsam yn herio Aldershot oddi cartref yng ngem gyntaf Barrow fel rheolwr swyddogol y clwb ddydd Sadwrn.

Ymunodd Barrow, oedd yn rhan o dîm rheoli Roberto Martinez yn Wigan, â Wrecsam ym mis Gorffennaf.