Sam Ricketts yn gadael Wrecsam i ymuno â'r Amwythig
- Cyhoeddwyd
Mae CPD Wrecsam wedi cadarnhau bod eu rheolwr Sam Ricketts wedi gadael y clwb i ymuno â'r Amwythig.
Fe wnaeth y clwb ofyn i Ricketts gadw draw o'u gêm yn erbyn Casnewydd yng Nghwpan FA Lloegr nos Sadwrn, yn dilyn y dyfalu am ei ddyfodol.
Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd Wrecsam eu bod wedi "gwneud popeth posib" i gadw Ricketts fel rheolwr.
Ond wedi i'r Amwythig ateb gofynion oedd yn rhan o gytundeb Ricketts, rhoddwyd caniatâd iddo drafod gyda'r clwb o Loegr.
Dim ond ym mis Mai y cafodd Ricketts, 37, ei benodi'n rheolwr ar Wrecsam.
Ers hynny mae wedi arwain y clwb i'r pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol, wrth iddyn nhw frwydro unwaith eto am ddyrchafiad.
Mae'r Amwythig ar hyn o bryd yn 15fed yn Adran Un, dwy gynghrair yn uwch na Wrecsam.
Bydd yr is-reolwr Graham Barrow yn cymryd yr awenau fel rheolwr dros dro wrth i'r Dreigiau chwilio am reolwr newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018