Ateb y Galw: Yr actores Bethan Ellis Owen
- Cyhoeddwyd
Yr actores Bethan Ellis Owen sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Lisa Victoria yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Ista ar y soffa yn y tŷ cynta' oddan ni'n byw ynddo fo yn Bontnewydd a Mam yn ll'nau'r grât ar ei glinia' ac yn g'neud tân newydd efo firelighters. 'Swn i 'di bod tua tair oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Hogyn o'dd yn ein dosbarth ni yn yr ysgol gynradd ar ôl i ni symud i Gaerdydd pan o'n i tua 8 oed. O'dd pawb yn ffansio Huw ac o'dd o'n mynd allan efo pawb yn ei dro. Ac ar ddiwrnod Sant Ffolant o'dd pawb yn cael presant ac o'dd yr un o'dd o'n mynd allan efo yn cael presant mwy!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan o'n i ym mlwyddyn 10, tua 14 neu 15, nes i siafio fy ngwallt i gyd i ffwrdd - nes i o heb feddwl, a difaru'n syth. Pan es i nôl i'r ysgol ar ôl wythnos o brofiad gwaith, ac ista ar y llawr yn y gwasanaeth, 'nath pennaeth y flwyddyn dd'eud "Mae gennym ni fachgen newydd gyda ni heddiw..." a phawb yn troi rownd a sbio arna i. Am embarrassing!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Echnos, wrth watsiad Nadolig Hafod Lon ar y teledu. O'dd hi'n rhaglen anhygoel - o'n i'n meddwl ei bod hi'n amazing. Nes i watsiad hi ddwywaith, unwaith efo un ferch ac eto efo'r ferch arall, a chrïo ddwywaith!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, lot! Pigo ngwinadd drwy'r amser. Ac mae gen i habit dwi 'di dechrau mynd iddo fo'n ddiweddar - unwaith ma'r genod 'di mynd i'r ysgol, os dwi ddim yn gweithio, fydda i'n mynd yn ôl i ngwely!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Penmon. Aethon ni ar drip Cymraeg efo Ysgol Llanhari yna a 'nes i syrthio mewn cariad efo'r lle. Pan o'n i'n hŷn, o'n i'n pigo Nain i fyny yn y car o lle o'dd hi'n byw yng Nghaernarfon, ac yn mynd â hi am dro i Penmon.
Do'dd hi'm yn gallu cerddad, felly o'n i'n mynd i'r caffi a dod â phaned allan i'r car iddi ac o'ddan ni'n ista yn y car yn edrach dros y dŵr. Byta cacen ac yfed panad yn y car efo Nain - o'dd o'n sbesial iawn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ella fod hyn ddim yn swnio'n arbennig iawn, ond y noson gysgodd Begw, y ferch gynta', trwy'r nos am y tro cynta'! Dwi'n licio cysgu!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Triw, cariadus, all-or-nothing.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Fy hoff ffilm ers blynyddoedd - a does neb yn gw'bod amdani rili - ydi Stella efo Bette Midler. Mae gen i o ar dâp, dyna pa mor hen ydi o.
Ffilm am berthynas rhwng mam a merch ydi hi a bob tro, dwi'n crïo ar y diwedd, a methu stopio crïo - dim crïo am 'chydig ond crïo am hanner awr! Ma' 'na rwbath amdani sy' wir yn fy nghyffwrdd i a dwi'n meddwl fod Bette Midler yn ffantastig.
O archif Ateb y Galw:
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
'Swn i'n cael diod efo'r ddwy nain a'r ddau daid. Dim ond un nes i ei chyfarfod erioed, felly 'swn i'n cael cyfarfod y tri arall, a chael Nain yn ôl.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Rhyw chwe mlynedd yn ôl, o'n i'n cael gwersi belly dancing. O'ddan ni'n mynd rownd yn cynnal cyngherddau, a ma' gen i'r wisg a wig a phopeth!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
'Swn i'n casglu fy nheulu i gyd at ei gilydd ac yn eu hygio nhw drwy'r dydd.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Mae gen i lot o hoff ganeuon a dwi methu dewis un. Ond mae Dad wedi sgwennu cân am yr heulwen a dim ond ni fel teulu sy'n ei gw'bod hi, a bob tro mae Dad yn canu'r gân, ma'n g'neud pawb yn hapus!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Corgimwch efo llwyth o garlleg,jalfrezi cyw iâr efo chillis ychwanegol, a cheesecake fanila. Dwi'n licio petha' efo llwyth o chillis a garlleg!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
'Swn i rili'n licio bod yn ddyn am y diwrnod er mwyn i mi weld sut beth ydi o i gael barf!
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Elain Llwyd