Banksy wedi cadarnhau mai ei waith ef sydd ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae'r artist stryd Banksy wedi cadarnhau gyda fideo ar ei gyfrif Instagram mai ei waith ef sydd wedi ymddangos ar ochr garej ym Mhort Talbot.
Mae'r gwaith graffiti yn dangos plentyn yn mwynhau chwarae yn yr eira gyda'i sled ar un ochr a thân yn creu cwmwl o ludw ar yr ochr arall i'r garej.
Dechreuodd trigolion lleol amau nos Fawrth bod y gwaith yn perthyn i'r artist stryd anhysbys, Banksy.
Mae Banksy wedi creu sawl delwedd mewn mannau cyhoeddus ar draws y byd, ac mae ei waith yn aml yn cynnwys neges wleidyddol neu gymdeithasol sy'n berthnasol i'r ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Plaid Cymru Aberafan, Nigel Thomas Hunt ei fod yn siŵr mai gwaith Banksy ydoedd.
"Rydym wrth ein boddau lawr yma, rydym yn siŵr mai gwaith gan yr artist stryd enwog ydyw.
"Mae gosodiad y gwaith yn glir iawn, rhwng ffwrnais chwyth a'r M4 ac ychydig droedfeddi o ble y magwyd Richard Burton.
"Wrth edrych ar y darlun fe welwch y ffwrnais yn y cefndir," meddai.
Mae llefarydd ar ran Banksy wedi gwrthod gwneud sylw ar y gwaith celf, ond rhannodd yr artist fideo o'r gwaith ar ei gyfrif Instagram prynhawn dydd Mercher.
Ychwanegodd Mr Hunt: "Rydym wrth ein boddau. Rwyf wedi ysgrifennu at y cyngor sir yn barod er mwyn ei ddiogelu ar frys."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell Nedd Port Talbot fore Mercher: "Mae'r cyngor yn anfon swyddogion i gysylltu gyda pherchennog yr eiddo er mwyn ei gynorthwyo i ddiogelu'r gwaith."
Cafodd ffens ei roi amgylch y gwaith i'w ddiogelu fore Mercher, gyda nifer o arbenigwyr, ffans a thrigolion lleol yn dweud ei fod yn debygol iawn o fod yn waith Banksy.