Elusen yn gwrthod arian achos 'gwisgoedd ffansi sarhaus'
- Cyhoeddwyd
![Clwb Victoria](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E9D1/production/_104875895_d6512a12-2b54-423c-a91c-25b18cda9dbc.jpg)
Mae Clwb Victoria wedi'i leoli yn Hen Golwyn
Mae elusen wedi cadarnhau eu bod wedi gwrthod cyfraniad ariannol gan Glwb Victoria yn Hen Golwyn ar ôl i'r noson elusennol gwisg ffansi gynnwys pobl oedd wedi duo eu hwynebau.
Mae elusen Cuddles, sy'n casglu arian ar gyfer Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, eu bod yn ymwybodol fod rhai o'r gwisgoedd ffansi yn "sarhaus."
Mewn datganiad ar Facebook gan Ymddiriedolwyr yr elusen maen nhw wedi gofyn i'r arian gael ei roi i "elusen cydraddoldeb" a'u bod yn "gwrthod ymddygiad o'r math yma."
Dywedodd y datganiad: "Rydym yn falch o gael ein dewis gan y digwyddiad gwisg ffansi flynyddol yn Hen Golwyn eleni.
"Dydd Sul 16 Rhagfyr daeth i'n sylw gan sawl aelod o'r cyhoedd fod nifer o'r bobl oedd yn cymryd rhan yn y digwyddiad gwisg ffansi wedi dewis gwisgoedd a oedd yn gwbl annerbyniol ac yn sarhaus.
"Rydym yn gwerthfawrogi efallai nad oedd trefnwyr y digwyddiad yn gyfrifol ond mae lluniau a sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ambell unigolyn wedi achosi gofid i'r rhai sydd wedi cysylltu gyda ni.
"Rydym hefyd yn siomedig ar ôl gweld y lluniau," meddai.
Mae Ficer Hen Golwyn, Quentin Bellamy wedi cael ei ddyfynnu yn y wasg fore Iau yn amddiffyn y rheiny oedd yn rhan o'r digwyddiad gwisg ffansi ac mae'n annog yr elusen i ail feddwl am dderbyn yr arian.
Ychwanegodd y datganiad fod yr elusen yr hawl i wrthod unrhyw rodd nad ydyn nhw'n teimlo sy'n briodol a'u bod nhw'n gwrthod cael eu cysylltu gydag ymddygiad sy'n hiliol, gwahaniaethol neu'n ddilornus mewn unrhyw ffordd."
Mae'r lluniau bellach wedi cael eu tynnu i lawr oddi ar dudalen Facebook Clwb Victoria.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2018
- Cyhoeddwyd30 Awst 2017