'Diogelwch gwael' RAF Fali yng nghyfnod Tywysog William

  • Cyhoeddwyd
RAF FaliFfynhonnell y llun, Google

Mae honiadau fod diogelwch ar safle'r Awyrlu yn Y Fali wedi dirywio o ganlyniad i ddiffyg disgyblaeth yn ystod cyfnod pan oedd y Tywysog William yn gweithio yno - a hynny i'r fath raddau fod risg o ymosodiad terfysgol.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod wedi ymchwilio ac wedi datrys yr honiadau ar y pryd.

Mae cyn-sarjant gyda'r Awyrlu oedd yn gweithio yn yr adran ddiogelwch wedi dweud nad oedd wedi derbyn cefnogaeth ei reolwyr wrth geisio codi safonau.

Roedd David Wyn Rowlands o Gaergybi yn un o bedwar sarjant oedd yn gyfrifol am dimau oedd yn diogelu ystafell i warchodwyr a giât i mewn i'r safle ar Ynys Môn.

'Ymosodiad'

Fe ymunodd Mr Rowlands fel profost milwrol yn dilyn 20 mlynedd o weithio gyda'r Gwarchodlu Cymreig a'r Catrawd Parasiwtwyr. Fe wasanaethodd yn Ynysoedd y Falklands ac yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd fod safonau diogelwch ar y safle wedi gwaethygu yn 2010 - cyfnod pan oedd y Tywysog William yn gweithio fel peilot chwilio ac achub yn Y Fali. Roedd gan y tywysog fesurau diogelwch ei hun.

Dywedodd Mr Rowlands ei fod yn teimlo ei fod yn cael cam gan rai oedd yn gwrthod gwrando ar ei orchmynion, a hynny pan oedd yn ceisio dilyn y rheolau.

"Roedd yr orsaf yn gwbl agored i unrhyw ymosodiad, roedd diogelwch y safle wedi dirywio. Roedd milwyr yn cysgu tra ar ddyletswydd yn beth cyffredin," meddai.

"Ond pan oeddech chi'n cwestiynu'r milwyr ac yn eu gosod ar gyhuddiad roedden nhw'n teimlo eu bod nhw wedi cael cam ac fe fydden nhw'n cymryd eu rhwystredigaeth allan arna i."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Tywysog William yn gweithio yn y Fali fel peilot Hofrennydd yn 2010

Mae Mr Rowlands yn honni eu bod wedi difrodi ei gar a difetha lluniau a dogfennau, gwneud synau uchel pan yn agos ato a cheisio gwaethygu ei anhwylder straen ôl-drawma (PTSD).

Dywedodd hefyd fod pobl wedi ymyrryd gyda'i ffon i wneud sŵn bang uchel pan oedd yn ei ateb.

Roedd y poen meddwl mor ddrwg, meddai, fel bod rhaid iddo fynd i'r tŷ bach i arbed ei hun rhag colli rheolaeth ac ymateb.

Ond pan gwynodd i'w reolwyr am y sefyllfa ni chafodd gefnogaeth - yn hytrach cafodd ei roi ar gyfnod oddi wrth y gwaith ar dâl llawn, ac ni chafodd ddychwelyd i'r gweithle.

Dywedodd yn ddiweddarach ei fod wedi cael ei fygwth gyda chamau disgyblu gan ei reolwyr, wnaeth hefyd geisio ei symud i weithio ar safle awyrlu arall dros 100 milltir i ffwrdd.

'Bwlio'

Dywedodd Mr Rowlands ei fod wedi gwneud dros 15 o gwynion mewn cyfnod o dair blynedd.

"Roedd RAF Fali yn credu fod yr elfen reoli yn Sir Lincoln yn gyfrifol am reoli'r platŵn yn y Fali, ac roedd yr elfen reoli yn Sir Lincoln yn credu fod RAF Fali yn rheoli'r sefyllfa," meddai.

"Doedd neb yn cymryd diddordeb ac roedd hynny'n gwneud pethau'n waeth."

Fe ddioddefodd Mr Rowlands chwalfa ar ei nerfau o ganlyniad ac fe gafodd ei ryddhau o'i waith am resymau meddygol.

Daeth tribiwnlys ym Manceinion i'r casgliad ei fod wedi dioddef o salwch meddwl ac iselder o ganlyniad i'w waith.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedd gan "bwlio na chwaith aflonyddu unrhyw le yn y fyddin a byddai ddim yn cael ei oddef".

Mae'r datganiad yn mynd ymlaen i ddweud fod "honiadau o fethiant diogelwch wedi cael eu hymchwilio a'u datrys ar y pryd", a bod "honiadau o fwlio yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn cael eu hymchwilio'n fanwl".