Cariad mwyaf Osian Candelas

  • Cyhoeddwyd

Osian Williams, prif leisydd y band Candelas, yw gwestai diweddaraf Beti George ar y rhaglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.

"Miwsig roc sy'n fy ysgwyd i ond dwi wrth fy modd yn gwrando ar bob math o gerddoriaeth."

Mae'n amlwg fod cerddoriaeth yn hanfodol bwysig ym mywyd Osian Williams, ac mae'n diolch i'w rieni "cerddorol ofnadwy" am hynny, sef Ann a'r diweddar Derec Williams, un o gyd-sefydlwyr Cwmni Theatr Maldwyn:

"Mam yn chwarae piano, a nhad i... o'dd o'n tone deaf d'eud y gwir, do'dd o'm yn medru canu nodyn mewn tiwn, sy'n synnu lot o bobl! Ond o'dd o fel tasai o'n medru gwneud pob peth arall i 'neud efo cerddoriaeth. Mae Mam wedi bod ynghlwm efo lot o gorau yn ardal Llanuwchllyn. Ganddi hi ges i'r nodau, a dwi 'di cael y rhythm gan fy nhad!"

Yn anffodus, bu farw Derec yn sydyn yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd yn 2014, colled enfawr i'r gymuned yr oedd wedi cyfrannu gymaint iddi dros y blynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Evan Dobson
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Derec Williams yn sydyn yn 2014

Roedd Osian, Branwen a Meilir, yn gweithio ar sioe gerdd yr oedden nhw wedi ei hysgrifennu, Dyma Fi, gyda disgyblion yr ardal, a Derec wedi bod yn eu helpu ar bob cam.

"O'dd hi'n wythnos ofnadwy i bawb," meddai Osian. "Dyma ni'n ymarfer reit at wythnos y Steddfod - ac o'dd o yno yn ein helpu ni bob tro oedden ni angen help.

"Dyma ni'n llwyddo i 'neud y perfformiad ar y noson gynta', ond yna cael ein galw ar frys i'r ysbyty, a dyma ni'n cyrraedd, ac yn anffodus roedd ein tad ni 'di'n gadael ni.

"Doedd o ddim i'w ddisgwyl. Aeth o i'r ysbyty, oedden ni'n meddwl y byddai o allan mewn 'chydig o ddyddiau, ond yn anffodus na. Roedd o'n berson andros o heini a doedd o byth yn stopio.

"Ond gafodd o afiechyd - dwi ddim yn cofio be' 'di'r enw yn iawn, a dwi ddim isho chwaith - o'dd o'n cael 'chydig o drafferthion anadlu, ac yn y diwedd, roedd ei gorff yn cau amdano'i hun."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Branwen, sy'n chwarae â'r band Cowbois Rhos Botwnnog, Meilir, sy'n actio ar gyfres Rownd a Rownd, ac Osian

Mae Osian a'i chwaer a'i frawd, Branwen a Meilir, eu tri wedi mynd i fyd y celfyddydau bellach, ac er eu bod wedi cael eu rhybuddio gan eu rhieni nad oedd yn beth hawdd bob tro, roedd hi bron yn anochel mai cerddoriaeth fyddai'n mynd â hi i Osian, meddai.

"Dyna dwi'n ei gofio o mhlentyndod, fi a Branwen yn chwarae bob math o gerddoriaeth gyda'n gilydd. Dysgodd Dad y dryms i mi. Nes i syrthio mewn cariad efo fo a chario mlaen i ddysgu fy hun wedyn.

"Hwnna dal i fod ydy'r offeryn dwi wir yn garu ei chware. Y byd roc ydi nghariad mwya' i, ac i mi, efo'r dryms 'ma hynny'n dechra. Galli di fod mor gerddorol ar ddrymiau ac ychwanegu at gân."

Disgrifiad,

Chwarae'r drymiau i Candelas oedd Osian yn wreiddiol...

Roedd yn rhan o nifer o fandiau yn ystod ei gyfnod yn Ysgol y Berwyn, Bala, ond yn y chweched y ffurfiodd Candelas gyda thri chyfaill o'r ysgol.

"'Nath y pedwar ohonon ni astudio Ffiseg AS, a pheidio gorffen y Lefel A. A'r peth gorau i ddod allan o'r gwersi 'na - sori Colin Thomas os ydach chi'n gwrando - oedd yr enw Candela oedd o lawlyfr, sef uned o fesur cryfder golau. Dyma ni'n bod yn greadigol iawn ac adio'r s ar y diwedd...!"

Cafodd y band lwyddiant aruthrol yn ystod Euros 2016, ar ôl iddyn nhw gael cais i ail-recordio clasur Yr Anhrefn, Rhedeg i Paris.

Disgrifiad,

Gig #rhedegiparis Eisteddfod Yr Urdd, Fflint 2016

"Doddan ni byth yn meddwl 'sa Cymru yn gneud mor dda, ac o ganlyniad basa'r gân yn ffrwydro. Dwi mor falch mod i 'di gallu bod yn rhan o'r holl beth.

"'Dan ni'n cael gigs mewn ysgolion ar draws Cymru ac mae gymaint yn 'nabod y gân. Mae fel tasai'r gân wedi agor lot o ddrysau i lot o blant."

Ac mae llwyddiant Osian yn parhau tu hwnt i'r band, ag yntau wedi cael bod yn rhan o Gigiau y Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ers yr un cyntaf yn 2016:

"Nes i drefnu'r gerddoriaeth i'r gerddorfa yn y gigs yn 2016 a 2017. Ac eleni, yng Nghaerdydd, roedd Geraint Jarman yn awyddus iawn i weithio efo fi - o'n i bron â rhoi'r ffôn i lawr achos mod i ddim yn coelio'r peth...

"'Sa 'na rywun wedi d'eud hynny wrtha fi pan o'n i tua 10 oed, mod i am weithio efo Geraint Jarman, dwi'n meddwl 'swn i 'di chwerthin yn eu gwyneb nhw! Alla i ddim credu hyd heddiw mod i 'di cael gweithio efo arwr cenedlaethol."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Canolfan y Mileniwm yn orlawn i glywed Geraint Jarman yn canu ei glasuron, i gyfeiliant cerddorfa

"Ro'n i angen trefnu 13 cân ar gyfer y gerddorfa. Ges i gynnig i arwain y gerddorfa hefyd, ond dwi'n gw'bod fod hynny ddim yn rhywbeth dwi'n gallu ei 'neud - dydi hi ddim mor hawdd â chwifio dy freichiau o gwmpas!"

A beth nesaf i'r cerddor amryddawn o Lanuwchllyn? Mae'n amlwg fod Osian yn debyg iawn i'w dad yn ei fwriad i gyfrannu i'r gymuned, er fod hynny "ella'n swnio 'chydig bach yn cheesy," meddai.

"Wrth wneud pethe bach ti wir yn gweld y gwahaniaeth, a ma' hynny'n well wrach na sbïo ar y darlun mawr a trio g'neud gwahaniaeth fel 'na... cychwyn wrth dy draed a 'neith petha' ddod o hynny dwi'n meddwl."

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Osian Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015

Ond wrth gwrs, y gerddoriaeth yw'r flaenoriaeth o hyd:

"Mae gen i'r un meddylfryd ag oedd gen i ym mlwyddyn 7. Dim mynd yn enwog byth ydi'r goal - ond rŵan dwi'n medru gneud fy mywoliaeth allan o be' dwi wir yn caru ei 'neud, a hynny mewn lot o feysydd gwahanol, boed yn recordio neu chwarae'n fyw neu gyfansoddi.

"Ti jest yn gobeithio bo' ti'n gallu tyfu, gwella dy hun, dysgu gan bawb ti'n gweithio efo, a chydweithio efo gymaint o gerddorion â phosib."

Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn am 12.00 Dydd Sul 23 Rhagfyr ar BBC Radio Cymru, neu ar BBC Sounds wedi'r darllediad.

Hefyd o ddiddordeb: