Dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad difrifol ger Pwllheli
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A499 ger Penrhos
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad "difrifol" yn ardal Pwllheli.
Mae dau berson bellach wedi eu cludo i Ysbyty Gwynedd o ganlyniad i'r gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A499 ger Penrhos fore Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 09:00 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng Mini Cooper ac Audi A3.
Fe gafodd gyrrwr 17 oed y Mini Cooper ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ag anafiadau difrifol, tra bod gyrrwr benywaidd yr Audi hefyd wedi cael ei chludo yno.
Cafodd y fford ei chau am rai oriau yn dilyn y digwyddiad ond mae bellach wedi ailagor.
Maen nhw wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad neu a welodd y naill gerbyd neu'r llall cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.