Cinio am ddim i rhai sy'n unig yn Bontnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae Age Cymru Gwynedd a Môn wedi bod yn cynnig cinio Nadolig am ddim i henoed yr ardal.
Mae'r cynllun yn gwahodd pobl leol i ddod i'r ganolfan ym Montnewydd ger Caernarfon i fwynhau cinio Nadolig.
Bwriad y cynllun yw rhoi'r cyfle i bobl gall fod yn unig dros yr ŵyl gwrdd â phobl newydd.
Mae'r cynllun sy'n cael ei gynnig am ddim yn cael ei redeg gan Age Cymru Gwynedd a Môn.
'Golygu lot'
Mae Ian Oliver yn defnyddio'r ganolfan yn aml, a dywedodd: "Ma'n help mawr, 'nai siarad trwy'r dydd, ma'n neis gweld pobl."
Ychwanegodd Hilda Edwards fod cael cwmni adeg yma'r flwyddyn "yn ofnadwy [o bwysig], cael sgwrs hefo rhywun yn lle eich bod chi'n 'sbio ar bedwar wal, mae'n neis cael sgwrs, sgwrs wahanol."
Fel rhan o'r cynllun mae dwy ferch leol, Efa ac Elan wedi bod yn casglu bwyd i ddarparu i'r henoed ar gyfer cyfnod y Nadolig,
"Mae rhai yma heddiw heb neb i ddathlu Nadolig hefo. Ma'n anodd iddyn nhw fynd allan i siopa weithiau. Fe wnaethom ni hel bwyd i'r bobl sydd yma a rhannu o allan iddyn nhw."
Dywedodd Prif Swyddog Age Cymru, Eleri Lloyd Jones: "Mae'n golygu lot i bobl, rhywle i ddod. Rydym ni'n cynnig bwyd am ddim heddiw ac mae'n gyfle i bobl ddod yma i gymdeithasu ac rydym yn falch o wahodd nhw yma."