Nid chwarae plant yw ymlacio gyda Lego

  • Cyhoeddwyd

'Does dim angen defnyddio plant fel esgus i fwynhau chwarae gyda Lego - mae mwy a mwy o oedolion yn troi at y darnau plastig lliwgar er mwyn ymlacio a chael gwared o straen.

Erbyn hyn mae digonedd o setiau Lego ar gyfer oedolion â nifer yn credu fod adeiladu campweithiau gyda miloedd o ddarnau yn ffordd dda i ddelio gyda straen ac anghofio am broblemau am gyfnod.

Miloedd o friciau

Lego oedd hoff degan Heddwyn Davies, sy'n optegydd yn Llandeilo, pan oedd yn blentyn. Nawr yn 47 oed, mae dal wrth ei fodd yn adeiladu setiau Lego - ond erbyn hyn mae'r modelau yn fwy uchelgeisiol ac yn cynnwys miloedd o friciau.

Dywedodd Heddwyn ar raglen Aled Hughes, Radio Cymru: "Mae rhai ohonyn nhw yn gymhleth. Mae 'na filoedd a miloedd o friciau. 'Dw i wedi adeiladu'r Taj Mahal, y Sydney Opera House, Tower Bridge a Big Ben. Mae ambell un efo rhyw 6000 a mwy o friciau - felly mae'n cymryd dipyn o amser.

Disgrifiad o’r llun,

Un o greadigaethau Heddwyn Davies, y Taj Mahal

"Amser ydy'r broblem, ond mae rhyw hanner awr diwedd y nos yn dilyn cyfarwyddiadau…mae'r brain power i gyd yn mynd i ganolbwyntio ar y Lego a 'dw i'n gallu anghofio helyntion bywyd am ychydig.

"Rhywbeth hamddenol yw e fel darllen cyn mynd i gysgu neu chwarae gitar. Mae e'n gwacau'r meddwl ychydig ar ddiwedd y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Un arall o gampweithiau Heddwyn

"'S'gen i ddim y galon i striwio nhw ar ôl yr holl ddyddiau o adeiladu a chi'n gallu cael Perspex bocsys i ffitio nhw yn berffaith. Mae rheiny yn eu cadw'n saff ac maen nhw'n mynd ar display rhywle wedyn.

"Ges i estyniad ar y tŷ rai blynyddoedd yn ôl a'r jôc oedd mai Lego extension oedd e. 'Tydi hynny ddim yn hollol wir, ond 'dw i wedi bod yn lwcus iawn i gael bach mwy o le. Ac mae'r wraig wedi dal ati gyda fi a ni heb cael ysgariad hyd yn hyn."

Er mai ymlacio yw'r nod, mae camgymeriad tra'n adeiladu yn gallu bod yn rhwystredig.

Meddai Heddwyn: "Os ti ar y Tal Majal ac ar instruction 73 ac wedi gwneud mistêc bach ac wedi mynd ymlaen i instruction 273, ti'n gorfod mynd reit 'nôl i gael y fricsen bach yna mas. 'Dydi hynny ddim yn helpu'r pwysau gwaed."

Ailgydio mewn plentyndod

Mae Laura Kemp, 44, yn awdures sy'n byw ym Mhenarth gyda'i theulu ac wedi dechrau adeiladu Lego yn ei 30au ar ôl i'w mab, Paddy, ddechrau chwarae gyda Lego.

Ffynhonnell y llun, Laura Kemp
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdures a'r ffan Lego, Laura Kemp

Meddai Laura: "Ro'wn i'n caru Lego fel plentyn ond 'roedd yn rhy ddrud. Unwaith i fi gael fy mab, gwelais gyfle i ail-gydio yn fy mhlentyndod a chael rhywbeth 'oedd ddim gen i fel plentyn. Dechreuais brynu setiau Lego i ni wneud gyda'n gilydd ond erbyn hyn fi sy'n adeiladu'r setiau ac mae fy mab a 'ngŵr yn rolio'u llygaid ata'i.

"Mae'n ymlacio fi ac yn cadw fi yn y foment. Mae'n beth 'mindful' i wneud fel gwneud jigso neu croesair. Ti'n canolbwyntio ar y dasg felly 'dyw dy feddwl ddim yn crwydro.

"Mae'n hobi drud. Dw i'n caru'r setiau Star Wars ac mae gen i'r Death Star, oedd yn £350.

"'Roedd yn anrheg Nadolig i fi a fy mab a gymrodd wythnos i fi adeiladu e, trwy'r dydd, bob dydd.

Ffynhonnell y llun, Laura Kemp
Disgrifiad o’r llun,

Laura a'i champwaith, y Death Star

"Wythnos yn ddiweddarach 'wnaeth fy mam-yng-nghyfraith ollwng e ar lawr. 'Roedd tua 3000 o ddarnau ond 'd'oen i ddim yn grac achos 'o'en i'n gwybod allwn i adeiladu fe 'to. Felly 'dw i wedi adeiladu e dwy waith nawr.

Llawenydd yr adeiladu

"Hefyd mae'n fuddsoddiad achos mae setiau Lego yn gallu cynyddu mewn gwerth. Mae'r cwmni'n glyfar iawn yn stopio gwneud setiau felly maen nhw'n werthfawr i bobl sy'n casglu Lego.

"Ond 'dw i ddim yn prynu Lego i wneud arian. I fi mae'r llawenydd yn yr adeiladu.

"'Dw i o hyd yn gobeithio cael Lego fel anrheg Nadolig - mae'n braf i eistedd fel teulu ac adeiladu rhywbeth. Mae'n ffordd dda o gael gwared ar straen ac mae'n greadigol.

"Os ti'n methu mynd i'r dafarn, eistedda lawr ac adeiladu Lego yn lle."

Hefyd o ddiddordeb