Trydedd Pont Menai? Mae lôn yno’n barod!
- Cyhoeddwyd
Pont, pontydd a mwy o bontydd. Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn gyda mwy na'i siâr o bontydd. O ailenwi un dros Afon Hafren i ddymchwel hen un reilffordd yn Llangefni.
Ac yna ychydig fisoedd yn ôl daeth y cawr o gyhoeddiad bod trydydd pont i fod ar draws Y Fenai. Lleihau tagfeydd traffig rhwng Ynys Môn a'r tir mawr ydy'r bwriad.
Cafodd llu o syniadau eu cynnig i hwyluso'r daith rhwng Môn a Gwynedd, ac mae un cynllun sydd wedi derbyn tipyn o sylw wedi ei fedyddio gan lawer fel 'Pont Bendigeidfran'.
Cymysg ydy'r farn p'run ai oes angen trydedd pont o gwbl. Mae rhai'n gofyn a oes angen croesiad arall ar sail yr effaith amgylcheddol a ieithyddol a'r gost (£135 miliwn).
Mae un dyn sydd wedi bod yn siarad efo Cymru Fyw yn awgrymu efallai bod yr ateb reit o dan ein trwynau, yn llythrennol felly, a hynny o dan un o'r pontydd presennol - Pont Britannia.
Mae Dyfed Jones, o Lanfairpwllgwyngyll, yn amheus o'r cynlluniau newydd ac yn awgrymu bod lôn addas yno'n barod a fyddai'n gwneud y tro. Doedd hwn ddim yn un o'r syniadau iddo fo eu gweld yn cael eu cynnig i'w hystyried.
Lôn yn segur
Ar Bont Britannia, o dan lefel ffordd yr A55, mae lefel arall ble mae'r rheilffordd yn croesi gyda threnau yn teithio o Gaergybi i Lundain ar ei hyd.
Wrth ochr y rheilffordd honno mae lôn goncrid, lletach na char cyffredin, sydd yn mynd bob cam ar draws y bont - o Fôn i'r tir mawr.
Mae dwy beipen yn rhedeg ar hyd ochr y lôn.
"Tybed ai haws o lawer fyddai symud rheiny na chodi pont newydd sbon?" meddai Dyfed.
"Maen nhw wedi gwneud cynlluniau i greu ffordd i gerddwyr a beicwyr ar y bont newydd 'ma hefyd, ond oni fyddai defnyddio'r dec concrid sydd wrth ochr y rheilffordd, o dan Pont Britannia'n bosib? Tydwi ddim yn beiriannydd, dim ond codi'r cwestiwn!"
A oes rhywbeth amlwg wedi ei golli fan hyn?
"Dwi ddim yn siŵr os oes gwir angen gwario ar bont arall, o-ce, dwi'n derbyn ei bod yn 'bot gwahanol' o arian ond o gofio ein bod ni'n dal mewn sefyllfa economaidd gwan ac mae cynghorau Môn a Gwynedd yn wynebu toriadau yn eu cyllideb eto eleni," ychwanegodd Dyfed, sy'n byw yn y pentref ers 19 mlynedd.
"Dwi'n bersonol yn gallu teithio'n gynharach er mwyn osgoi'r traffig mwyaf ond yn derbyn nad ydi pawb ddim. Cyfnod byr yn y bore ac yna gyda'r nos sy'n achosi problemau, tua deg munud ydi o gan amlaf, felly siawns bod na ddatrysiad haws?
"Dim ond eisiau holi oeddwn i tybed a oes rhwybeth amlwg wedi ei golli yn fan hyn? Dyna'i gyd!"
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: "Mae'r A55 yn ffordd hynod bwysig yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Pont Britannia yw'r unig rhan o'r ffordd sydd ddim yn ffordd ddeuol, sy'n cyfyngu ar lif y traffig ac yn arwain at dagfeydd ar adegau prysur.
"Mae cefnogaeth sylweddol i wella seilwaith trafnidiaeth yr ardal, gyda mwyafrif yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y trydydd bont yn ystyried bod gwell capasiti ar yr A55 ar draws y Fenai yn bwysig i yrwyr a beicwyr.
"Byddai trydydd pont yn gwella amseroedd teithio, yn caniatáu i'r traffig lifo'n well ac yn sicrhau bod yr A55 yn gallu ymdopi'n well, yn ogystal â sicrhau bod mwy o gyfleoedd i deithio yn llesol. Byddai'n sicrhau bod y rhan yma o'r ffordd yn addas at y diben am sawl blwyddyn i ddod."
Hefyd o ddiddordeb: