Dedfrydu deg aelod o giang cyffuriau yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae naw aelod o giang cyffuriau wedi'u carcharu am gyfnodau amrywiol am ddosbarthu cyffuriau Dosbarth A yn ardal Wrecsam.
Mae aelod arall, Corey Ducket, 18 oed wedi'i ddedfrydu i ddwy flynedd wedi'i ohirio ar ôl iddo gael ei "hudo" i gymryd rhan yn y weithred.
Fe gafodd Operation Loot ei lansio ar ôl i heroin a chocên 'crack' gael ei ddarganfod yng nghar un o'r dynion, Kieron Gracey.
Fe arestwyd y giang ym mis Awst ar ôl i'r heddlu ddarganfod gwerth £18,000 o gyffuriau a £5,000 o arian parod yn eu meddiant.
Roedd y dynion yn gweithredu rhan amlaf yn ardal Clos Owen a Pharc Caia wrth i'r heddlu gadw llygaid barcud ar gartref Ben Coffin a oedd yn dosbarthu cyffuriau i gwsmeriaid yn ei ardd.
Fe gafodd Tyrone Edwards, 24 oed, oedd yn cael ei ddisgrifio fel y trefnydd ei garcharu am chwe blynedd ac wyth mis.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod Edwards wedi rheoli'r gweithrediadau ac roedd yn cael ei weld gan bawb fel y person oedd yn rheoli popeth.
Roedd yn derbyn y cyffuriau a threfnu iddyn nhw gael eu dosbarthu gan eraill.
Fe gafodd Kieron Gracey, 23 o Wrecsam ei garcharu am dair blynedd a dau fis ar ôl i'r barnwr ddweud ei fod yn gyrru Edwards o gwmpas a'i fod yn ymwybodol o faint y cyrch.
Ben Coffin, 19 oed, oedd yn gyfrifol am "ddarparu'r siop" meddai'r barnwr, ac fe garcharwyd am ddwy flynedd a deg mis ynghyd gyda, Levi Rowlands 18 oed, a Rhys Williams, 18, y ddau o Wrecsam.
Fe garcharwyd y gwerthwyr, Lucas Hopson, 21, Alex Williams, 21, Adam Roberts, , and Jessica Dunmner, 23, i gyd o ardaloedd amrywiol yn Sir Wrecsam hefyd am yr un cyfnod.
Fe wnaeth pob un ohonyn nhw gyfaddef i gyhuddiad o gynllwynio dros gyfnod o chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn.
Ychwanegodd y barnwr ei fod yn "siomedig gweld cymaint o bobl ifanc yn y doc".