Marwolaeth Caergybi: Dyn wedi'i ryddhau heb gyhuddiad
- Cyhoeddwyd

Cafodd corff y ddynes 52 oed ei ddarganfod yng Nghlôs Peibio ddydd Iau
Mae dyn 63 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes 52 oed yng Nghaergybi wedi'i ryddhau yn ddi-gyhuddiad.
Yn dilyn archwiliad post mortem yn Ysbyty Glan Clwyd, daeth meddygon i'r casgliad fod y ddynes wedi marw o achosion naturiol.
Cafodd Heddlu'r Gogledd wybod am y darganfyddiad mewn fflat yng Nghlôs Peibio toc wedi 14:00 ddydd Iau.
Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod am y datblygiadau, a bydd dogfennau yn cael eu cyflwyno i'r Crwner yn esbonio fod y farwolaeth yn annisgwyl, ond fod y ddynes wedi marw o achosion naturiol.