'Cyfrifoldeb ar bawb i herio sylwadau rhywiaethol'
- Cyhoeddwyd
Mae yna gyfrifoldeb ar bawb i herio pobl sy'n gwneud sylwadau rhywiaethol i fenywod ifanc mewn busnes, yn ôl elusen Chwarae Teg.
Mae'r elusen yn dweud bod eu gwaith ymchwil nhw'n dangos bod sylwadau neu agweddau o'r fath yn cael effaith fawr ar ferched ifanc.
Dywedodd Helen Antoniazzi o'r elusen bod angen i bobl sylweddoli sgîl-effeithiau agweddau amharchus.
"Yn aml mae pobl yn meddwl, 'dyw e ddim yn beth difrifol, paid poeni am bethe bach fel yna'," meddai.
"Ond mae e yn cael effaith ar fenywod ifanc a 'da ni wedi gwneud ymchwil fel Chwarae Teg yn ddiweddar sydd yn dangos hynny."
'Cyfrifoldeb arnon ni gyd'
"Dwi'n meddwl bod angen meddwl amdano fe fel rhywbeth i gymdeithas i gyd i daclo nid jyst y merched sy'n wynebu'r peth.
"Mae rôl i'r cyfryngau er enghraifft achos, os mae pobl yn gweld merched yn rhedeg busnesau ar y teledu yn aml mae'n normaleiddio'r peth.
"Ond hefyd mae cyfrifoldeb arnon ni gyd i daclo neu i herio pobl pan 'da ni'n clywed neu weld rhywbeth."
Dangosodd arolwg diweddar gan y Young Women's Trust, dolen allanol bod gwahaniaethu o ran rhyw yn gyffredin o hyd, gyda bron i draean o ferched rhwng 16 a 30 oed yn dweud eu bod wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd eu rhyw yn y gweithle.
Mae Bethan Roberts o Abertawe yn berchennog busnes ifanc iawn.
Yn 22 oed mae wedi sefydlu caffi newydd poblogaidd yn ardal Brynhyfryd o'r ddinas gyda'i phartner Liam.
Chwe mis ar ôl agor, maen nhw wrth eu boddau, er yr oriau hir a'r gwaith di-baid.
Ond mae 'na un rhan o'r gwaith dyw Bethan ddim yn ei fwynhau, sef agweddau ambell un tuag at fenywod.
"Dwi'n cael e trwy'r amser," meddai.
"Pryd o ni 'di dechrau oedd suppliers yn dod mewn trwy'r amser a trial gwerthu pethau nhw i ni, ac roedd un person wedi dod mewn a gofyn 'galla i siarad â rhywun sydd in charge?' Ac ro'n i fel, 'ie dim probs, fi yw e'."
"Ac o' nhw fel 'na ga'i siarad â rhywun sy' in charge?' Ac o'n i fel: 'Ie! Fi ti eisiau', ond o' nhw jyst ddim yn credu fi o gwbl!"
Yn ôl Bethan maen nhw hyd yn oed wedi cael problemau gydag aelodau o staff.
"Ni wedi cael problemau mewn fan hyn hefyd. Roedd chef 'da ni, a roedd rhaid i ni cael gwared ohono fe achos odd e jyst ddim yn gwrando arna i.
"Roedd e'n gwrando ar unrhywbeth oedd Liam yn dweud achos dyn oedd e, ond jyst fi? Na, dim byd. Roedd e jyst ddim yn cymryd fi o ddifrif. Roedd e jyst yn meddwl o'n i'n ifanc, o'n i'n fenyw.
"Dwi'n mynd mas a 'dwi'n clywed pobl yn siarad, ac maen nhw'n dweud, 'oh that's the owner of the Haystack's girlfriend!' Mae hwnna jyst yn crazy i feddwl, ond mae e'n digwydd.
"Fi eisiau mynd draw a dweud, na fi biau fe! Ond na, dwi methu."
Mae'r caffi yn dafliad carreg o Stadiwm Liberty, ac felly mae nifer o chwaraewyr rygbi a phêl-droed proffesiynol yn ymweld â'r lle yn aml.
A dyw'r agweddau hen ffasiwn y mae Bethan yn wynebu ddim wedi dal hi'n ôl, mae hi a'i chymar am agor ail gaffi yn y ddinas yn y flwyddyn nesaf.