Parc diwydiant moduro £100m: 'Dim swyddi hyd yma'

  • Cyhoeddwyd
Safle'r parc technoleg arfaethedig
Disgrifiad o’r llun,

Prin oedd y dystiolaeth o unrhyw symud ymlaen ar safle'r parc ym mis Rhagfyr

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y swyddi cyntaf yn cael eu "creu ymhen misoedd" yn wyneb beirniadaeth bod dim seiliau wedi eu gosod hyd yma ar safle parc busnes gwerth £100m yng Nglyn Ebwy ar gyfer y diwydiant moduro.

Wrth wrthod cais am arian cyhoeddus ym Mehefin 2017 i warantu prosiect Cylchffordd Cymru, fe ddywedodd y llywodraeth y byddai'n canolbwyntio yn hytrach ar gynllun codi parc busnes modur oedd â photensial i greu 1,500 o swyddi erbyn 2027.

Ond yn niffyg arwyddion amlwg bod gwaith ar fin dechrau i wireddu'r cynllun hwnnw mae'r sefyllfa'n "digalonni rhywun", ym marn perchennog busnes lleol.

Mae Llywodraeth Cymru'n pwysleisio ei fod "yn fuddsoddiad 10 mlynedd, a fyddai'n gwneud yr ardal yn fyd enwog fel canolfan ar gyfer datblygu a chyflwyno technolegau newydd".

Ond yn ôl AC Blaenau Gwent, fe allai llywodraeth Llafur Cymru gael eu cosbi yn yr etholiad nesaf oni bai eu bod yn llwyddo i ddod â sgiliau newydd i'r ardal.

"'Dyn wedi aros yn ddigon hir, dim rhagor o ddatganiadau i'r wasg, dim rhagor o areithiau, 'dyn ni angen gweithredu," meddai Alun Davies, a gafodd ei ddiswyddo o'r Cabinet ym mis Rhagfyr. "Mae pobl yma angen gweld yr addewidion yn cael eu gwireddu."

Llun artistFfynhonnell y llun, Powell Dobson Architects
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd y penseiri o gymal cyntaf y parc busnes

Roedd y parc yn cael ei weld gan lawer fel un o gonglfeini Llywodraeth Cymru i adfywio economi'r Cymoedd, ac roedd yna addewid y byddai'r gwaith adeiladu wedi dechrau erbyn Mawrth 2018, ond ychydig o dystiolaeth mae BBC Cymru wedi ei weld o unrhyw gynnydd.

Ar y safle yng Nglyn Ebwy, yr unig awgrym fod pethau wedi dechrau ydy'r arwydd sydd wedi ei godi ac ychydig o waith draenio.

Mae BBC Cymru wedi siarad â pherchnogion busnes sy'n dweud bod pobl Blaenau Gwent wedi eu "dadrithio" gan yr amser y mae wedi ei gymryd i ddod â swyddi i'r ardal.

Dywedodd Jeanne Fry Thomas, sy'n rhedeg cwmni arwerthu tai: "Mae e wir yn digalonni pobl yma, roedden nhw'n disgwyl rhywbeth a 'dyn nhw heb gael dim."

Jeanne Fry Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jeanne Fry-Thomas fod pobl yr ardal yn amheus ynghylch cynlluniau'r llywodraeth

Yn ôl Ms Thomas roedd pobl yn amheus o'r parc, "Mae nhw nawr yn teimlo eu bod nhw wedi bod yn iawn, achos does dim yna."

"Roedden nhw'n credu bod nifer o fusnesau'n dod fyddai'n hyfforddi pobl gan roi sgiliau a swyddi o ansawdd, achos dyna sydd ei angen ar yr ardal yma."

'Beth yw'r ots?'

Yn ôl Steve Roberts, sy'n rhedeg caffi Cwmglo gyda'i wraig, mae'r ardal wedi ei siomi dro ar ôl tro ar hyd y blynyddoedd.

"Mae 'na gynlluniau a strategaethau wedi bod yma ers imi adael yr ysgol yn ôl yn 70au, ond does dim i'w ddangos am hynny," meddai.

"Y broblem yw bod cymaint wedi ei addo i bobl Blaenau Gwent dros gymaint o flynyddoedd, dyw'r gwleidyddion erioed wedi gwireddu'r rheini, mae 'na deimlad bellach, 'Beth yw'r ots? S'dim yn mynd i ddod ohono fe.'"

Samuel Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Samuel Taylor bod ganddo ffydd y bydd y prosiect yn dod â swyddi i'r ardal yn y pen draw

Ond yn ôl aelod Blaenau Gwent o senedd ieuenctid y DU, mae pobl ifanc yn obeithiol y bydd y swyddi yno yn y dyfodol.

"Dwi'n obeithiol iawn ac yn gefnogol ohono," meddai Samuel Taylor.

"Ddeunaw mis yn ddiweddarach, does dim byd i'w weld yma, ond dyw hynny ddim yn golygu ei fod e wedi mynd... mae'n gynllun 10 mlynedd."

Pam Glyn Ebwy?

179 o swyddi yn unig y mae parth menter Glyn Ebwy wedi creu mewn saith mlynedd.

Gan nad yw'r ardal yn adnabyddus am ei chysylltiad â thechnoleg, fe ofynnodd BBC Cymru wrth Lywodraeth Cymru pam eu bod wedi penderfynu lleoli'r ganolfan newydd ar y safle yn Rhyd Y Blew.

Fe ofynnwyd hefyd am gael gweld unrhyw beth oedd yn sail i'r penderfyniad, yn cynnwys yr astudiaeth dichonoldeb ar gyfer y buddsoddiad £100m o'r sector cyhoeddus.

Ond dywedodd swyddogion nad oedd yr adroddiad ganddyn nhw, a chyfeirio at brosiectau portffolio. Fe wnaethon nhw hefyd wrthod rhyddhau dogfennau eraill o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Alun Davies ei fod wedi ceisio symud pethau yn eu blaenau tra roedd yn aelod o Lywodraeth Cymru ond mae cwestiynau eto i'w hateb

Yn ôl Alun Davies, a gollodd ei swydd cabinet pan ddaeth Mark Drakeford yn Brif Weinidog, mae'r cynllun yn "brawf" o rym Llywodraeth Cymru.

Yn gyfrifol am dasglu cynllun y Cymoedd, dywedodd Mr Davies, er bod gwaith wedi digwydd, bod gan weinidogion gwestiynau i'w hateb ynglŷn â pham nad oedd swyddi wedi eu creu yn y parc hyd yn hyn.

"Dwi'n credu bod hyn wedi bod yn symud yn rhy araf am gyfnod rhy hir," meddai. "Dyw'r farchnad ddim yn mynd i ddod i'r adwy, felly mae'n rhaid i'r Llywodraeth."

'Swyddi cyntaf mewn misoedd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y cynllun yn fuddsoddiad 10 mlynedd, a fyddai'n gwneud yr ardal "yn ganolfan â chydnabyddiaeth yn fyd-eang ar gyfer datblygu a chyflwyno technolegau newydd".

Dywedodd y bydd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i ddatblygu strategaeth tymor hir i fynd i'r afael â heriau economaidd a bod grŵp ymgynghorol wedi cyfarfod.

"Yn y cyfnod cychwynnol hwn o'r rhaglen, mae ein sylw ar fuddsoddi yn yr isadeiledd a pharatoi'r tir a'r eiddo i ddarparu unedau diwydiannol modern a fydd yn denu busnesau newydd," meddai'r llefarydd.

"Yn wir, rydym ar ganol cwblhau cynlluniau ar gyfer cyfres o brosiectau eiddo ac yn disgwyl i'r swyddi adeiladu cyntaf ddeillio o'r rhaglen yn y misoedd nesaf."