Pro 14: Gleision 19-16 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Lloyd FairbrotherFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid i'r prop, Lloyd Fairbrother, adael y maes ar ôl derbyn cerdyn coch wedi 31 munud

Roedd cig gosb Gareth Anscombe yn eiliadau olaf y gêm yn ddigon i selio buddugoliaeth o 19-16 i'r Gleision ym Mharc yr Arfau.

Bu bron i'r Dreigiau gipio gem gyfartal ar ôl i Jarryd Sage sgorio cais hwyr i'r ymwelwyr - oedd wedi bod lawr i 14 dyn am 50 munud ar ôl i Lloyd Fairbrother dderbyn cerdyn coch.

Roedd y dyfarnwr o'r farn bod y prop wedi taro Dillon Lewis gyda'i benelin yn fwriadol, ac felly'n haeddu gadael y maes.

Dan Fish sgoriodd unig gais y Gleision yn fuan yn yr ail hanner, ond roedd tair cic gosb gan Josh Lewis yn ddigon i gadw'r Dreigiau yn y gêm tan yr eiliadau olaf.

Ond wrth i'r ymwelwyr agosáu at ddod a'u rhediad o 23 colled mewn gemau yn erbyn timau o Gymru i ben, fe ychwanegodd Anscombe driphwynt i'r tîm cartref gyda chic gosb wedi 80 munud.