Beth am roi cynnig ar Nadolig gwyrdd?

  • Cyhoeddwyd
Row of potted Christmas trees with red bowsFfynhonnell y llun, Getty Images

O goed Nadolig y mae modd eu defnyddio eto i leihau ôl-troed carbon eich cinio Nadolig, mae sawl ffordd o wneud yr Ŵyl yn fwy gwyrdd eleni.

Ond mae un amgylcheddwr yn credu fod modd bod yn fwy gwyrdd fyth, ond efallai na fydd ei syniadau yn taro deuddeg.

Mae ymchwil yn dangos fod cinio Nadolig arferol i deulu o chwech yn gollwng cymaint o garbon deuocsid â gyrru 78.5 milltir mewn car petrol.

Mae oddeutu wyth miliwn o goed Nadolig yn cael eu prynu bob mis Rhagfyr yn y DU.

Felly yn hytrach na breuddwydio am Nadolig Gwyn, mae prif weithredwr y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, Adrian Ramsay yn breuddwydio am un gwyrdd.

"Rhan fechan iawn o'n hôl-troed carbon yw un goeden Nadolig," meddai. "Ond mae'r cyfan yn ychwanegu at y broblem.

"Byddai troi'n figan - neu fwyta llai o gig a bwydydd llaeth - osgoi hedfan a phrynu llai o bethau yn gyffredinol yn bethau y gall pawb eu gwneud drwy'r flwyddyn."

'Mae llai bob tro'n well'

Mae teithio i ymweld â theulu neu ffrindiau yn cynhyrchu allyriadau, ac yn ôl Adrian mae llai bob tro'n well.

"Osgoi hedfan fyddai orau, a defnyddio'r trên neu rannu car. Ry'n ni hyd yn oed yn gwybod am bobl sy'n bwyta eu cinio Nadolig ar Skype er mwyn osgoi hedfan.

"Y fantais ychwanegol i hynny yw y gallwch chi ddiffodd y peiriant os ydych chi wedi cael digon ohonyn nhw!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Coed Nadolig

Ychwanegodd: "Mae coeden go iawn wedi amsugno carbon wrth dyfu, ond os yw'n cael ei thaflu mae'n gollwng methan.

"Bydd yr effaith ar yr amgylchedd yn llai os wnewch chi losgi'r goeden, neu gwell fyth ei dorri'n ddarnau mân i'w defnyddio yn yr ardd.

"Os oes lle gyda chi, y dewis gorau yw cael coeden iawn a'i chadw mewn pot y tu allan fel bod modd ei defnyddio eto."

Ffynhonnell y llun, CAT
Disgrifiad o’r llun,

Adrian Ramsay yw prif weithredwr y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth

'Prynwch llai o bethau'

I'r rhai sy'n hoffi pentwr o anrhegion o dan y goeden, mae'r cynnig nesaf yn un anoddach.

Dywedodd Adrian: "Does neb eisiau ymddangos fel 'Scrooge', ond mae'n rhaid i ni brynu llai o bethau.

"Meddyliwch am effaith, er enghraifft, nwyddau electroneg yn nhermau'r ynni mae'n ei gymryd i'w gwneud nhw a'u dosbarthu, a'r trydan y maen nhw'n eu defnyddio."

Ei awgrym yw sefydlu cynllun Santa Cudd gydag uchafswm pris. Dewis arall fyddai siopa am bethau sydd wedi'u gwneud yn lleol neu bethau sydd wedi'u gwneud o ddeunydd wedi ailgylchu.

"Dewiswch anrhegion o amser neu brofiad, yn hytrach na nwyddau," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai bwydydd yn gallu cynhyrchu nwyon tŷ gwydr wrth gwrs!

Y cinio

"Nid twrci yw'r cig gwaethaf yn nhermau amgylcheddol, ond mae'n dal yn cyfrif am dros hanner yr allyriadau carbon ar eich plat.

"Byddai dewis llysieuol yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.

"Mae tatws, pannas ac ysgewyll yn eu tymor dros y Nadolig, sy'n golygu y gallwch chi brynu cynnyrch sydd heb deithio'n bell.

"Mae angen meddwl hefyd am fwyd sydd dros ben - mae gwastraffu bwyd yn gwastraffu tir, dŵr ac ynni," ychwanegodd Adrian.