Pobl mewn oed yn cael eu targedu gan dwyllwyr.
- Cyhoeddwyd
Mae rhai pobl oedrannus yn teimlo o dan warchae oherwydd eu bod yn cael eu targedu yn gyson gan dwyllwyr, yn ôl elusen Age Cymru.
Mae'r elusen yn gweithio gyda Heddlu De Cymru fel bod staff eu llinell gymorth yn medru adnabod a rhoi gwell cymorth i ddioddefwyr.
"Mae targedu pobl oedrannus yn beth mawr ar hyn o bryd," meddai Michael Phillips o Age Cymru.
"Ry' ni'n credu bod hyd at 150,000 o bobl oedrannus yn cael eu targedu bob blwyddyn yng Nghymru, am tua £1,200 ar gyfartaledd."
Bydd gweithwyr o'r elusen nawr yn cael eu hyfforddi gan gynghorwyr o Uned Atal Trosedd yr heddlu ar sut i adnabod a chefnogi'r rhai allai fod yn cael eu targedu, a dweud wrth bobl oedrannus am y dulliau diweddaraf sy'n cael eu defnyddio gan dwyllwyr.
Cymorth i ddioddefwyr
Gall staff yr elusen hefyd roi gwybod i'r heddlu am unigolion maen nhw'n credu allai elwa a chael cysur o ymweliad gan Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu
Dywedodd yr Arolygydd Cheryl Griffiths, o Heddlu De Cymru bod y twyllwyr yn mynd yn fwy soffistigedig.
"Beth ry' ni'n gweld llawer ohono'n ddiweddar yw twyllwyr yn cymryd arnynt eu bod yn swyddogion treth, gan awgrymu wrth y dioddefwr fod bil heb ei dalu.
"Maen nhw'n dweud os na fydd y bil yn cael ei dalu y bydd gwarant arestio'n cael ei chyhoeddi.
"Yn aml iawn y dull o dalu yw talebau - yn arbennig talebau iTunes - maen nhw'n dweud wrth y dioddefwyr am fynd i'r archfarchnad i brynu nifer fawr o dalebau.
"Wedyn maen nhw'n eu ffonio yn ôl a gofyn iddyn nhw am y cod oddi ar y talebau hynny."
"Mae'r bygythiad o warant arestio'n ddigon i bobl."
Mae swyddog lleihau trosedd yr heddlu wedi bod yn gweithio gyda banciau ac archfarchnadoedd i adnabod arwyddion o ymddygiad anarferol.
"Mae cael person oedrannus yn prynu gwerth cannoedd o bunnau o dalebau iTunes mewn archfarchnad yn anarferol.
"Yn anffodus, mae llawer o archfarchnadoedd yn gweld hyn - ond maen nhw'n dweud wrthym ni ac yn atal y troseddau rhag digwydd.
"Ond does dim digon o bobl yn dod atom ni - beth ry' ni'n weld yn amlach na pheidio yw adroddiadau gan drydydd person yn hytrach na'r dioddefwr ei hun.
"Mae hynny'n awgrymu bod llawer o ddioddefwyr yn cadw'r peth iddyn nhw eu hunain."
'O dan warchae'
Dywedodd Mr Phillips fod cynllun Age Cymru yn cynnig cymorth.
"Bydd llawer o bobl yn cael eu twyllo trwy'r post, eraill ar y ffôn, rhai trwy'r we os ydyn nhw ar-lein, eraill gan fasnachwyr twyllodrus, ac yn aml iawn cyfuniad o'r dulliau yma," meddai.
"Mae'n fenter soffistigedig ac mae rhai pobl oedrannus yn teimlo o dan warchae."
"Ond ry' ni yma i chi, yn gweithio gyda'r heddlu, felly rhowch ganiad i ni ac fe allwn ni weithio gyda chi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018