Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad Pwllheli

  • Cyhoeddwyd
A499Ffynhonnell y llun, Google

Mae disgwyl i ddyn 20 oed ymddangos ger bron Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ar ffordd brysur ger Pwllheli.

Mae'r dyn yn dod o Bwllheli ac mae e hefyd wedi cael ei gyhuddo o droseddau eraill sef gyrru o dan ddylanwad alcohol, peidio â stopio wedi damwain a pheidio rhoi gwybodaeth am y ddamwain.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A499 rhwng Pwllheli a Llanbedrog tua 19:00 nos Wener.

Ddydd Sadwrn dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod dynes leol 34 oed wedi marw yn y fan a'r lle ac fe fuont yn apelio am fwy o wybodaeth.

Mae'r heddlu'n rhoi cymorth arbenigol i deulu'r ddynes a fu farw.