Sut beth yw gweithio ar-alw ar Ddydd Nadolig?

  • Cyhoeddwyd
Carl Hudson, Terry Evans a Huw Birrell

I'r mwyafrif o bobl mae Dydd Nadolig yn amser am bryd o fwyd mawr, anrhegion a threulio amser gyda'r teulu.

Ond i bron i 50,000 o weithwyr yng Nghymru mae 25 Rhagfyr fel unrhyw ddydd Mawrth arall, wrth iddyn nhw fynd i'w gwaith.

Mae ffigyrau'n awgrymu bod 3.3% o bobl dros 16 oed yng Nghymru'n gweithio ar 25 Rhagfyr, gyda'r swyddi mwyaf cyffredin yn cynnwys clerigwyr a staff y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Mae nifer o weithwyr eraill sydd ddim yn sicr a fyddan nhw'n gweithio ar Ddydd Nadolig wrth iddyn nhw dreulio'r diwrnod ar-alw.

Mae llawer o'r rheiny sydd ar-alw - nifer ohonynt yn wirfoddolwyr - yn treulio eu diwrnod yn ymateb i alwadau argyfwng.

Dyma oedd gan rai i'w ddweud am sut beth yw bod ar-alw dros y Nadolig a mynd i'r afael â'u gwaith yn hytrach na thwrci.

Y parafeddyg ambiwlans awyr

Bydd Carl Hudson yn gweithio sifft 12 awr ddydd Mawrth yn ei swydd fel parafeddyg gydag Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon.

"Ar Ddydd Nadolig fe fyddwn ni oll yn yr un canolfannau, yn gweithio'r un sifftiau ag arfer," meddai.

"Yn y swydd yma ry'n ni'n gwybod, er mor neis fyddai cael Nadolig gartref, bod rhaid i chi fod ar-alw, ond ein dewis ni yw hynny a does neb yn meindio.

"Mae gennym ein ffordd ein hun o ddathlu - yn aml ry'n ni'n cael rhoddion caredig ac anrhegion.

"Mae'n ddiwrnod, fel y byddai gartref, ar gyfer bwyta gormod!"

Y peiriannydd ar y priffyrdd

Os ydych chi'n gyrru i weld ffrindiau neu deulu dros y Nadolig, fe allech chi fod angen help rhywun fel Terry Evans.

Mae Terry yn gyfrifol am faterion fel glanhau ar ôl tywydd garw a delio gyda gwrthdrawiadau yn ei rôl gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf.

"Mae bod ar-alw yn wahanol i fod mewn swyddfa ar Ddydd Nadolig, sy'n dda, ond mae hefyd yn golygu nad oes gennych chi gyfle i ymlacio chwaith," meddai.

"Fe allech chi fod yng nghanol eich cinio Nadolig pan dy'ch chi'n cael galwad bod angen i chi fynd allan a delio gyda rhywbeth."

Yr achubwr mynydd

Os ydych chi'r math o berson sy'n hoffi mynd i gerdded ar ôl eich cinio Nadolig, fe allech chi weld rhai o aelodau o dimau achub mynydd Cymru.

Dywedodd Huw Birrell o Gymdeithas Achub Mynydd Gogledd-Ddwyrain Cymru bod y Nadolig yn amser prysur iddynt.

"Ry'n ni i gyd ar-alw, ac mae rhai'n dweud nad yw'n teimlo fel Nadolig os dy'n nhw ddim wedi cael eu galw allan," meddai.

"Mae gennym ni bobl sy'n rhoi eu 'sgidiau 'mlaen a mynd allan trwy'r drws i helpu rhywun yn syth ar ôl eu cinio Nadolig.

"Mae 'na bwysau mawr yn emosiynol ar dimau achub mynydd, ond mae ein teuluoedd yn dda am ddeall trwy gydol y flwyddyn."

Y llywiwr bad achub

Mae Danny-Lee Davies yn gwirfoddoli gyda'r RNLI yng Nghonwy, ac mae'n treulio'r Nadolig ar-alw pan nad yw i ffwrdd gyda'r llynges fasnachol.

"Ry'n ni ar-alw 24 awr y dydd, ac mae'n rhaid i ni wastad gadw ein teclynnau'n agos am mai ar rheiny y cawn ni'r alwad os yw rhywun yn ffonio 999 am wylwyr y glannau," meddai.

"Os oes ein hangen ni fe fyddwn ni'n mynd allan, dim ots pa adeg o'r dydd, hyd yn oed ar Ddydd Nadolig.

"Y peth pwysicaf yw bod gennym griw o ffrindiau da a theuluoedd i'n cefnogi.

"Yr unig ffordd ry'n ni'n gallu gwneud hyn fel gwirfoddolwyr ydy gyda help a chefnogaeth y rheiny, yn enwedig dros y Nadolig."