'Fy mywyd mewn perygl pe bawn i'n cael fy anfon adref'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi bod yn byw yn Abertawe yn dweud y byddai ei fywyd mewn perygl pe bai'n cael ei anfon yn ôl i Weriniaeth Ddemocrataidd Congo.
Roedd Otis Bolamu yn gweithio i lywodraeth y wlad cyn gwneud cais am loches yn ne Cymru.
Yn ôl deiseb ar-lein roedd lle i gredu y byddai'n cael ei anfon yn ôl i Congo Ddydd Nadolig, ond mae'n parhau yn y DU ac yn dweud ei fod yn ansicr beth fydd yn digwydd nesaf.
Dywedodd y Swyddfa Gartref bod pob cais am loches yn cael eu "hystyried yn ofalus ar eu haeddiant unigol".
Yn siarad o ganolfan fewnfudo yn Llundain, ble bydd yn treulio Dydd Nadolig, dywedodd Mr Bolamu ei fod yn aros i glywed beth fydd ei dynged.
'Colli Abertawe'
"Dydw i ddim yn gwybod beth yw'r sefyllfa. Rydw i wedi bod mewn canolfannau fel yma ers chwe diwrnod bellach," meddai.
"Rydw i eisiau mynd yn ôl i fy nghymuned. Mae'r bobl yn Abertawe yn garedig ac rwy'n colli'r lle."
Fe ddaeth Mr Bolamu i'r DU yn gynharach y flwyddyn yma ar ôl cael gwybod ei fod yn cael ei amau o ysbio dros yr wrthblaid yn Congo.
"Fe fyddai mewn perygl pe bawn i'n mynd adref. Fe allwn i gael fy arestio," meddai.
Mae deiseb ar-lein sy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i adolygu achos Mr Bolamu wedi llwyddo i gael 7,000 o lofnodion.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar achosion unigol ond eu bod yn cael eu "hystyried yn ofalus ar eu haeddiant unigol".