'Rwy'n aros ar ddihun yn y nos' yn poeni am effaith treth etifeddiant

Y teulu Cornock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu Cornock - Janet, ei mab James, ei wraig Nia, a'u meibion Dafydd a Steffan - yn poeni am y newidiadau cymorth treth i eiddo amaethyddol

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau gwledig yn dweud y bydd newidiadau i dreth etifeddiant yn cael effaith negyddol tu hwnt ar glos y fferm.

Ym mis Ebrill y flwyddyn nesa' fe fydd newidiadau i'r drefn gymorth ar dreth etifeddiant sydd ar gael i ffermydd ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae'n golygu y bydd 'na dreth o 20% ar eiddo amaethyddol sydd wedi eu hetifeddu gwerth mwy na £1m.

Ar ddiwrnod agoriadol Sioe Sir Benfro mae undeb NFU Cymru yn galw ar ysgrifennydd gwladol Cymru i gwrdd â nhw er mwyn dod o hyd i ddatrysiad.

Fe ddwedodd Llywodraeth y DU na fydd y mwyafrif o ffermydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.

'Aros ar ddihun yn y nos'

Mae ffermwyr hefyd yn poeni am y newidiadau.

Roedd Janet Cornock, 71, yn cadw fferm laeth yn Abergwaun gyda'i diweddar ŵr Gwilym.

Bellach mae'n ffermio yno gyda'i mab James a'i deulu.

Y gobaith yw bydd eu hwyrion yn gallu parhau gyda'r traddodiad teuluol.

Janet Cornock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Janet Cornock yn poeni am basio'r fferm ymlaen i'r genhedlaeth nesaf

Ond does dim sicrwydd y bydd hynny'n digwydd yn sgil y penderfyniad i godi treth etifeddiant o Ebrill 2026 ymlaen.

"Fe nes i a Gwilym weithio'n galed trwy'n bywydau ac mae'r fferm wedi golygu popeth i ni," meddai.

"Prin iawn bydden ni'n mynd ar ein gwyliau ac yn hytrach na gwario arian ar ein hunain, bydden ni yn ei ailfuddsoddi yn y busnes.

"Ni wastad wedi bod yn ofalus gyda'n harian a ry'n ni wedi talu swm sylweddol o dreth bob blwyddyn ar yr hyn ry'n ni'n ennill, fel y byddech chi'n disgwyl.

"Ond nawr dwi'n poeni am y syniad o dreth fferm a'r hyn bydd e'n 'neud i'r fferm – rwy'n aros ar ddihun yn y nos."

Abi ReaderFfynhonnell y llun, NFU Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae dirprwy lywydd NFU Cymru, Abi Reader, yn galw am gyfarfod gydag ysgrifennydd gwladol Cymru

Yn ôl dirprwy lywydd NFU Cymru, Abi Reader mae'r polisi yn un gwael.

"Mae ffermydd yn fusnesau unigryw, ac mae gwerth y busnes wedi'i gloi yn ein hasedau, a does dim modd datgloi'r gwerth heb werthu'r asedau, sy'n mynd ar draul gallu'r fferm i fod yn hyfyw.

"Ry'n ni'n cydnabod awydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau'r arfer o brynu tir amaethyddol fel buddsoddiad effeithlon o ran treth gan unigolion sydd â dim diddordeb i ffermio'r tir.

"Ond ry'n ni wedi dangos i'r llywodraeth dro ar ôl tro y bydd y polisi yma yn niweidio ffermydd teuluol bach er mwyn dod â swm dibwys i'r pwrs cyhoeddus.

"Ry'n ni'n galw ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stephens, i gwrdd â ni, i ddod o hyd i ateb sy'n osgoi'r difrod trychinebus sydd rownd y gornel i'n ffermydd teuluol."

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'r mwyafrif o ffermydd sy'n derbyn cymorth ddim yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.

Ychwanegodd y bydd yr arian a gaiff ei godi drwy'r newid yn mynd tuag at wasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw o ddydd i ddydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.