Anrhegion a char un teulu yn cael eu dwyn Noswyl Nadolig
- Cyhoeddwyd
Roedd colli eu holl anrhegion Nadolig yn dilyn lladrad yn "dorcalonnus", yn ôl un teulu.
Dywedodd Carl Davies, o Rymni ger Caerffili, iddo sylwi ar y lladrad wedi i gymydog alw i ddweud bod drws y tŷ ar agor.
Ynghyd â'u hanrhegion Nadolig, roedd BMW y teulu hefyd wedi cael ei ddwyn, a gafodd y cerbyd ei ddarganfod yn ddiweddarach wedi'i losgi.
Mae Heddlu Gwent wedi dweud eu bod yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac nad ydynt eto wedi arestio neb.
Dywedodd Mr Davies ei fod wedi amcangyfrif bod gwerth £1,500 o bethau wedi eu dwyn a'u difrodi.
Dywedodd Mr Davies: "Fel allwch chi werthfawrogi, nid y gwerth ariannol sy'n bwysig, ond y ffaith, 24 awr cyn y Nadolig, a phawb wedi gweithio'n galed drwy'r flwyddyn i roi'r anrhegion yma, gan feddwl am beth roeddent am brynu..."
"A dyna'r siom fawr - sut all unrhyw un wneud hynny i chi ar Noswyl Nadolig?"
Dywedodd y teulu eu bod wedi rhyfeddu gyda charedigrwydd a chefnogaeth eu cymdogion.
Yn ôl Mr Davies: "Yr un peth positif sydd wedi dod o hyn yw'r cefnogaeth rydym yn ei gael wrth ein cymdogion."