Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad yng Nghastell-nedd

  • Cyhoeddwyd
Car Heddlu

Mae dyn 29 oed wedi cael ei gyhuddo o bedwar trosedd yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Nghastell-nedd yn oriau man fore Mercher, 26 Rhagfyr.

Cafodd y dyn ei gyhuddo o gymryd car nad oedd yn eiddo iddo, achosi niwed sylweddol wrth yrru tra wedi ei ddiarddel, defnyddio car heb yswiriant a pheidio stopio yn dilyn gwrthdrawiad.

Mae disgwyl i'r dyn fynd gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener.

Cafodd pump o bobl eu harestio yn wreiddiol ond dim ond un sydd wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd.

Daw'r cyhuddiadau yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Groves yng Nghastell-nedd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi'r digwyddiad am 05:15 pan gafodd dyn ei daro gan gar bychan lliw golau.

O ganlyniad i'r gwrthdrawiad, fe gafodd dyn lleol 23 oed ei gludo i Ysbyty Treforys gydag anafiadau difrifol. Mae'r dyn eisoes wedi ei ryddhau o'r ysbyty ac yn parhau i wella gartref.

Cafodd y car ei yrru o'r safle cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Mae'r car arian Peugot 208 oedd yn y gwrthdrawiad bellach wedi ei ddarganfod.