Teyrnged teulu i feiciwr modur 19 oed 'tirion a siriol'

  • Cyhoeddwyd
Luke BattersFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw beiciwr modur lleol a fu farw wedi gwrthdrawiad ar gyrion Casnewydd nos Wener.

Bu farw Luke Batters, 19 oed, wedi'r digwyddiad tua 23:45 ar Common Road ym mhentref Whitson.

Un cerbyd yn unig oedd yn y gwrthdrawiad, yn ôl yr heddlu.

Mae teulu Mr Batters wedi talu teyrnged iddo gan ganmol "ei natur siriol a'i barodrwydd i helpu eraill".

Mewn datganiad fe ddywedodd y teulu ei fod "yn ddyn ifanc, tal a thirion" oedd yng nghanol blwyddyn 'gap' cyn dechrau ar brentisiaeth peirianneg drydanol ar ôl sefyll arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Gatholig St Albans ym Mhont-y-pŵl.

Dywedodd ei deulu mai ei brif ddiddordebau oedd chwarae gêm gyfrifiadurol ryngwladol "lle roedd ganddo lawer o ffrindiau ac roedd yn chwaraewr medrus, a'i feic modur Yamaha MT-07.

"Roedd wirioneddol o ddifrif ynghylch beicio modur, gan gymryd cwrs diogelwch a dysgu'r technegau gorau gan arbenigwyr."

Mae'r teulu'n cael cefnogaeth gan blismyn arbenigol ac mae'r llu'n apelio am wybodaeth a lluniau dash cam gan unrhyw un oedd yn defnyddio'r ffordd tua'r un adeg â'r gwrthdrawiad all fod o gymorth i'w hymchwliad.