Cyhuddo dyn 28 oed o dreisio dynes ym Megeli

  • Cyhoeddwyd
BegeliFfynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod dyn 28 oed wedi ei gyhuddo o dreisio dynes mewn digwyddiad ym Megeli, Sir Benfro ar 27 Rhagfyr.

Mae Blaine Alexander Sawyer wedi ei gyhuddo o dreisio ac mae wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli dydd Mawrth.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ac mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys y Goron Abertawe ar 4 Chwefror.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Cameron Ritchie nad oedden nhw'n "chwilio am neb arall yn gysylltiedig gyda'r digwyddiad".