Pump yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ger Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae pump o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad difrifol yn Owrtyn, Wrecsam nos Lun.
Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw ychydig wedi 22.30 wedi adroddiadau o wrthdrawiad un car ar yr A528 Ffordd Salop.
Cafodd dwy ddynes a thri dyn oedd yn eu harddegau hwyr a'u hugeiniau cynnar eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Cafodd tri eu cludo i Ysbyty Maelor Wrecsam a dau i Ysbyty Duges Caer.
Mae un dynes wedi cael ei throsglwyddo i ysbyty arbenigol yn Stoke on Trent gydag anafiadau all newid ei bywyd ac mae un dyn wedi ei drosglwyddo i Ysbyty Walton yn Lerpwl.
Dywedodd Sarjant Stephen Richards eu bod nhw'n "apelio i unrhyw un gall fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu i unrhyw un oedd yn yr ardal gall fod â lluniau o'r digwyddiad".
Gall unrhyw un sydd â rhagor o wybodaeth am y digwyddiad gysylltu ag uned draffordd yr heddlu drwy ddyfynnu rhif X000588.