Heddlu'n cyhoeddi enw dynes a fu farw ger Y Bala

  • Cyhoeddwyd
LLUN TEULUFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hollie Sheridan-Connis yn 24 ac yn dod o ardal Penbedw ar Lannau Mersi.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw dynes gafodd ei chanfod yn farw yn Llangywer ger Y Bala ddydd Mawrth.

Roedd Hollie Sheridan-Connis yn 24 ac yn dod o ardal Penbedw ar Lannau Mersi.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar lannau Llyn Tegid am 05:30 ddydd Mawrth.

Mae'r llu yn disgwyl canlyniadau profion tocsicoleg yn dilyn archwiliad post mortem, ac mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb ei hesbonio.

Mae dyn 31 oed sydd hefyd o Lannau Mersi a fu'n cynorthwyo'r heddlu wedi'i ryddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Neil Harrison o Heddlu'r Gogledd: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Holly yn ystod y cyfnod eithriadol o anodd yma.

"Mae archwiliad fforensig o'r safle wedi'i gynnal ac rydym nawr yn disgwyl canlyniadau tocsicoleg."