Cwpan FA Lloegr: Gillingham 1-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd allan o Gwpan FA Lloegr wedi iddyn nhw golli 1-0 oddi cartref yn Gillingham.
Elliott List sgoriodd y gôl fuddugol i'r tîm cartref - sy'n chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Lloegr - wedi 81 munud.
Er i reolwr Caerdydd, Neil Warnock, wneud newidiadau i'w dîm arferol, nhw oedd yn rheoli'r chwarae.
Ond yr un oedd yr hanes, gyda Chaerdydd yn cael eu cosbi am beidio gymryd eu cyfleon.