Cwpan FA Lloegr: Aston Villa 0-3 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Courtney Baker-Richardson sgoriodd y gyntaf i Abertawe wedi llai na dau funud o'r chwarae
Mae Abertawe drwodd i bedwaredd rownd Cwpan yr FA yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus oddi gartref yn erbyn Aston Villa.
Fe rwydodd Courtney Baker-Richardson i'r ymwelwyr wedi llai na dau funud o'r chwarae yn Villa Park.
Toc wedi'r egwyl, fe roddodd y bytholwyrdd Nathan Dyer yr Elyrch ddwy ar y blaen, cyn i Jay Fulton sgorio gyda 10 munud yn weddill i wneud y sgôr yn 0-3.