Tamara'n camu i'r llwyfan am y tro cyntaf i achub panto
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr artistig Theatr Clwyd wedi camu i'r adwy ar y funud olaf a chymryd rhan yn ei phantomeim cyntaf erioed ar ôl i brif actores y cynhyrchiad orfod gadael y llwyfan gydag anaf.
Roedd Tamara Harvey yng nghanol ceisio perswadio ei merch fach i fwyta ei swper pan gafodd alwad frys o'r theatr yn Yr Wyddgrug gan gynhyrchwyr Dick Whittington.
Roedd hynny wedi i'r actores Emmy Stonelake gael anaf i'w phen-glin tua phum munud wedi i'r llen godi ar ddechrau perfformiad nos Fercher.
Ond fe aeth y sioe yn ei blaen wedi toriad byr oedd yn rhoi amser i Ms Harvey ruthro i'r theatr, newid i wisg Alice a chael golwg munud olaf ar y sgript.
"Ro'n i wedi actio ar lwyfan mewn dramâu yn yr ysgol, ond roedd y tro dwytha' i mi fod ar y llwyfan pan o'n i yn y brifysgol, o gwmpas 20 mlynedd yn ôl," meddai Harvey wrth BBC Cymru Fyw.
"Roedd y sioe yn dechrau am 19:00 ac fe ges i alwad ffôn gartre am 19:11!"
'Fy ngwthio i'r lle cywir'
Dywedodd ei bod yn lled gyfarwydd â'r sgript wedi wythnosau o ymarferion a dangosiadau cychwynnol y pantomeim ond bod y profiad o'i pherfformio "yn wahanol iawn i'w gwylio", a'i bod yn "caru a gwerthfawrogi dawn actorion" fwy nag erioed o'r herwydd.
Mae hefyd yn canmol holl aelodau'r criw cynhyrchu am "roi'r props cywir i mi a fy ngwthio i'r lle cywir ar yr amser cywir".
Dywedodd bod gweddill y cast yn canu ac yn chwarae offerynnau yn ystod y cynhyrchiad "gan gynnwys Emmy, ond do'n i ddim. Naethon nhw ganu fy rhannau i a nes i jest sefyll yna a gwenu a ddim cweit yn siŵr be' i neud!"
Bu'n rhaid iddi berfformio eto brynhawn Iau ond fe ddychwelodd Ms Stonelake i'r rôl nos Iau.
"Rydw i newydd adael ei hystafell wisgo ac mae hi wrthi yn rhoi ei cholur ymlaen!
"Mae dwywaith yn fwy na digon i mi! 'Dwi'n gobeithio na fydd o'n digwydd eto!"
Cafodd Ms Harvey ei phenodi'n gyfarwyddwr artistig Theatr Clwyd yn 2015.
Dyma'r eildro o fewn chwe mis i gyfarwyddwr artistig orfod achub y dydd ar y funud olaf yn un o'i chynhyrchiadau.
Hi yw cyfarwyddwr y ddrama Home, I'm Darling - cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Clwyd a chwmni National Theatre - a gafodd ei pherfformio yn Yr Wyddgrug yn y lle cyntaf cyn trosglwyddo i Lundain.
Ym mis Awst bu'n rhaid i gyfarwyddwr artistig National Theatre, Rufus Norris, gymryd lle'r actor o Gymru, Richard Harrington wedi iddo yntau gael ei daro'n wael.
"Pe taswn i wedi gwrthod mynd ar y llwyfan ar ôl i Rufus wneud, llwfrdra fysa peth felly," meddai.
Mae sêr Dick Whittington hefyd yn cynnwys Phylip Harries, Daniel Lloyd a Lynwen Haf Roberts.
Mae'n cael ei ddisgrifio fel "panto cwlt gyda ffrogiau disgo, setiau ysblennydd, comedi carbwl di-ri, ac wrth gwrs y pypedi panto" ac mae ymlaen tan 19 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018