Dynes mewn cyflwr 'difrifol' wedi ymosodiad yn Hwlffordd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi'i arestio yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddynes yn Sir Benfro.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i Stryd y Gogledd yn Hwlffordd brynhawn ddydd Iau 3 Ionawr.
Mae dyn 34 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r ddynes a chafodd ei hanafu yn parhau i fod yn yr ysbyty ac wedi dioddef "anafiadau gall newid ei bywyd".
Mae'r heddlu yn parhau gyda'i ymchwiliad ac mae nifer o swyddogion yn parhau i fod yn yr ardal.