PRO14: Gweilch 20-11 Gleision

  • Cyhoeddwyd
George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd George North (canol) un o ddau gais y tîm cartref

Y Gweilch oedd yn fuddugol yn erbyn y Gleision mewn gêm ddarbi galed ar Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Roedd ceisiau gan Scott Williams a George North - naill ochr i gais Garyn Smith dros y Gleision - yn ddigon i agor y bwlch i 14-8 ar yr hanner.

Ond roedd anaf cas i Adam Beard yn gysgod ar y gêm, wedi i'r clo rhyngwladol gael ei gario oddi ar y cae wedi ychydig funudau o'r chwarae yn dilyn anaf i ardal ei wddf.

Mae'r canlyniad yn symud y Gweilch i'r trydydd safle yn Adran A, gyda'r Gleision yn y pumed safle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i glo Cymru a'r Gweilch, Adam Beard adael y maes wedi ychydig funudau

Gweilch:

Dan Evans; George North, Cory Allen, Scott Williams, Luke Morgan; Sam Davies, Aled Davies; Rhodri Jones, Scott Baldwin, Tom Botha, Adam Beard, Alun Wyn Jones, Olly Cracknell, Justin Tipuric (capt), Sam Cross.

Eilyddion: Scott Otten, Gareth Thomas, Alex Jeffries, Lloyd Ashley, James King, Tom Habberfield, Luke Price, Owen Watkin.

Gleision:

Matthew Morgan; Blaine Scully, Rey Lee-Lo, Willis Halaholo, Garyn Smith; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Rhys Gill, Kristian Dacey (capt), Dmitri Arhip, Seb Davies, Josh Turnbull, Josh Navidi, Olly Robinson, Nick Williams.

Eilyddion: Kirby Myhill, Brad Thyer, Dillon Lewis, George Earle, Rory Thornton, Lloyd Williams, Steven Shingler, Owen Lane.