PRO14: Scarlets 22-13 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Ken OwensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd capten y Scarlets, Ken Owens, yn chwarae mewn safle anarferol iddo - fel wythwr

Fe lwyddodd y Scarlets i gael y gorau o'r Dreigiau ddydd Sadwrn wrth eu trechu 22-13.

Roedd Scarlets wedi colli pum gêm yn olynol cyn y penwythnos.

Er i'r Dreigiau chwarae'n dda, a gorffen gyda chais godidog, Bois y Sosban oedd yn fuddugol ar Barc y Scarlets.

Asgellwr y tîm cartref, Ioan Nicholas, sgoriodd cais cynta'r gêm, a hynny yn yr ail hanner.

Sgoriodd y mewnwr Sam Hidalgo-Clyne i roi'r gêm tu hwnt i afael yr ymwelwyr, cyn i'r Dreigiau sgorio cais campus eu hunain yn symudiad ola'r ornest, diolch i James Benjamin.

Scarlets:

Johnny McNicholl; Ioan Nicholas, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Paul Asquith; Dan Jones, Kieran Hardy; Rob Evans, Ryan Elias, Samson Lee, Josh Helps, David Bulbring, Ed Kennedy, Ken Owens (capt), Dan Davis

Eilyddion: Marc Jones, Wyn Jones, Werner Kruger, Tom Price, Tom Phillips, Sam Hidalgo-Clyne, Steff Hughes, Tom Prydie.

Dreigiau:

Zane Kirchner.; Adam Warren, Tyler Morgan, Jack Dixon, Hallam Amos; Josh Lewis, Tavis Knoyle; Aaron Jarvis, Richard Hibbard, Dan Suter, Brandon Nansen, Matthew Screech, Cory Hill (capt), Aaron Wainwright, Harrison Keddie.

Eilyddion: Elliot Dee, Gerard Ellis, Chris Coleman, Joe Davies, James Benjamin, Rhodri Williams, Jason Tovey, Jordan Williams.